Neidio i'r prif gynnwy

Bydd y buddsoddiad hwn yn cael ei ddefnyddio i leihau amseroedd aros ym meysydd llawdriniaeth ddewisol, diagnosteg a therapïau sy'n ychwanegol at y rhai sydd eisoes wedi eu cynllunio.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Awst 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y buddsoddiad hwn yn cael ei ddefnyddio i leihau amseroedd aros ym meysydd llawdriniaeth ddewisol, diagnosteg a therapïau sy'n ychwanegol at y rhai sydd eisoes wedi eu cynllunio. 
 
Yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf, bu cynnydd o oddeutu 20% yn nifer yr atgyfeiriadau i wasanaethau mewn ysbytai  - o 1.07 miliwn yn y 12 mis a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2013 i 1.27 miliwn yn y 12 mis a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2016. 

Bu'r cynnydd mewn arbenigeddau unigol hyd yn oed yn fwy, gyda chynnydd o 37% yn nifer yr atgyfeiriadau gastroenteroleg a 22% yn nifer yr atgyfeiriadau orthopedig - lle mae'r GIG bellach yn gallu gweld a thrin mwy o gyflyrau nag o'r blaen.   
 
Ond er gwaethaf y cynnydd yn y galw am driniaeth, dros y ddwy flynedd ddiwethaf bu lleihad amlwg yn yr amseroedd rhwng atgyfeirio a thriniaeth a'r amseroedd aros am ddiagnosis. 

Bu gostyngiad yn nifer y bobl sy'n aros mwy na 36 o wythnosau rhwng atgyfeirio a thriniaeth, o 28,654 ym mis Awst 2015 i 12,354 ym mis Mawrth 2017, a bu gostyngiad yn nifer y bobl sy'n aros mwy nag wyth wythnos am brawf diagnostig,  o 28,000 i 4,741.
 
Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd Vaughan Gething:
“Mae'r galw am wasanaethau'r GIG yng Nghymru, ac yng ngwledydd eraill y DU, yn parhau i dyfu. Mae hyn yn rhoi pwysau ychwanegol ar y GIG i ddarparu gofal amserol i gleifion.
“Er fy mod yn disgwyl i fyrddau iechyd gynllunio a darparu gwasanaethau cynaliadwy sy'n bodloni anghenion eu poblogaeth leol, bydd y buddsoddiad o £50m dw i'n ei gyhoeddi heddiw yn helpu GIG Cymru i ymdopi â'r galwadau ychwanegol drwy leihau amseroedd aros ymhellach mewn meysydd allweddol, megis llawdriniaeth ddewisol, diagnosteg a therapïau.” 
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid Mark Drakeford:
“Rydyn ni'n gwybod bod y galwadau a'r pwysau ar ein gwasanaeth iechyd yn parhau i gynyddu. Rydyn ni'n darparu'r cyllid ychwanegol hwn o'n cronfeydd wrth gefn er mwyn i fyrddau iechyd Cymru allu mynd y tu hwnt i'r cynlluniau sydd ganddynt ar waith eleni er mwyn gwella perfformiad a chynnig gwasanaeth o'r ansawdd gorau i gleifion.”