Neidio i'r prif gynnwy

Yn sgil y cyllid hwn, bydd cyfanswm buddsoddiad cyfalaf Llywodraeth Cymru yn yr Ysbyty yn dod i £6.5 miliwn dros y tair blynedd diwethaf.

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Hydref 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y cyllid yn cael ei roi tuag at barhau â’r gwaith o ailddatblygu cyfleusterau’r ysbyty. O ganlyniad, bydd y staff a’r cleifion yn elwa ar amgylchedd gwell, a bydd yr arian o gymorth hefyd i wireddu cynlluniau strategol y Bwrdd Iechyd ar gyfer cyflenwi gwasanaethau ledled Powys.  Yn sgil y cyllid hwn, bydd cyfanswm buddsoddiad cyfalaf Llywodraeth Cymru yn yr Ysbyty yn dod i £6.5 miliwn dros y tair blynedd diwethaf.

Mae’r cynlluniau i ailddatblygu yn cynnwys:

  • Cynyddu nifer yr ystafelloedd clinigol yn yr Adran Cleifion Allanol i ymdopi â mwy o weithgarwch a chefnogi’r strategaeth i wneud mwy ym Mhowys
  • gwella’r gwasanaethau Endosgopi sy’n cael eu darparu yn yr ysbyty
  • darparu cyfleusterau ystafelloedd ymolchi gwell a fydd yn cydymffurfio â’r safonau
  • sicrhau bod pobl anabl yn gallu cael mynediad i’r Adran Ddeintyddol gyfan.
Bydd y gwasanaethau hyn ar eu newydd wedd yn arwain at fanteision sylweddol i’r gymuned leol yn Llandrindod ac ar gyfer trigolion Powys yn ehangach. Byddant yn helpu’r bwrdd iechyd i gynyddu nifer y llawdriniaethau dydd sy’n cael eu cynnal ym Mhowys ac i ganolbwyntio ar fodel o atal a hyrwyddo iechyd a llesiant, gofal a chymorth yn y gymuned.   

Dywedodd Dr Jon Matson o Bractis Meddygol Llandrindod:

“Bydd y gymuned leol yn Llandrindod yn elwa’n fawr diolch i’r datblygiadau hyn. Mae hyn yn cynnwys cynyddu a gwella’r amrywiaeth o wasanaethau i gleifion allanol sy’n cael eu cynnal yn ein hysbyty lleol. Mae’n datblygu ar y gwaith sydd wedi’i wneud yn barod i greu Canolfan Enedigaeth Ithon, gan gynnwys cyfleusterau uwchsonograffi i’w defnyddio ar gyfer asesiadau dydd, a agorwyd yn gynharach eleni.” 

Dywedodd Carol Shillabeer, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Addysgu Powys: 

“Mae’r cyhoeddiad heddiw yn newyddion gwych i bobl Powys, ac i Landrindod yn arbennig. Mae’n ein cefnogi i roi hyd yn oed mwy o ofal a thriniaeth o fewn y sir, a gwella mynediad a lleihau amseroedd teithio i drigolion lleol. Mae’n ein helpu i wireddu ein gweledigaeth ar gyfer Powys Iach ac Ystyrlon drwy ganolbwyntio ar lesiant, a darparu cymorth a chefnogaeth yn y gymuned yn gynnar, a gofal mwy cydgysylltiedig.” 

Dywedodd Vaughan Gething, yr Ysgrifennydd Iechyd: 

“Rwy’n falch o gyhoeddi bod £3m arall o gyllid ar gael ar gyfer yr Ysbyty Coffa Rhyfel yn Llandrinod, Powys. Mae’n hanfodol bwysig bod cyfleusterau ysbytai yng Nghymru yn bodloni gofynion y safonau diweddaraf er mwyn darparu amgylchedd diogel i gleifion, ac i weithwyr iechyd proffesiynol wneud eu gwaith yn effeithiol. 

Bydd hyn yn helpu i gyfrannu at Gymru iachach, gyda phrosiect a fydd yn creu cyfleuster modern, sy’n cydymffurfio â’r safonau gofynnol ar gyfer y dyfodol.