Neidio i'r prif gynnwy

Vaughan Gething yn cyhoeddi £10 miliwn yn ychwanegol i helpu i leddfu'r pwysau ychwanegol ar y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru yn ystod cyfnod prysur y gaeaf.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Ionawr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i gefnogi'r byrddau iechyd, y gwasanaeth ambiwlans a gwasanaethau gofal cymdeithasol ledled Cymru i drin a gofalu am y nifer cynyddol o bobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth yr adeg hon o'r flwyddyn.

Bydd yn helpu i leddfu'r pwysau ar draws y system gyfan, o ofal sylfaenol i ofal mewn ysbytai a gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru. Enghraifft o hyn yw galluogi pobl hŷn i adael yr ysbyty yn gynt drwy ddefnyddio pecynnau cymorth lle bo hynny'n briodol.

Mae'r Ysgrifennydd Iechyd yn disgwyl i fyrddau iechyd gydweithio â'u partneriaid i bennu'r ffordd orau o ddefnyddio'r buddsoddiad yn seiliedig ar y pwysau, y blaenoriaethau a’r capasiti lleol.

Mae'r Ysgrifennydd Iechyd hefyd wedi cymryd camau i leddfu'r pwysau ar feddygon teulu drwy lacio elfen y Fframwaith Ansawdd a Chanlyniadau o gontract y practisau cyffredinol tan ddiwedd mis Mawrth 2018. Mae'r penderfyniad yn cydnabod effaith pwysau'r gaeaf nid yn unig ar y gwasanaeth iechyd, ond ar feddygon teulu a'r tîm Gofal Sylfaenol ehangach ledled Cymru. Bydd y camau a gymerir yn galluogi meddygon teulu a nyrsys practis i reoli'u cleifion mwyaf agored i niwed a chleifion cronig yn ystod y gaeaf.

Dywedodd Vaughan Gething:

"Mae sefydliadau'r gwasanaeth iechyd wedi bod yn cynllunio ar gyfer y cyfnod hwn ers diwedd gaeaf y llynedd, gyda chymorth £50 miliwn o gyllid gennym ni i'w helpu i sicrhau cydbwysedd rhwng darparu gofal brys a gofal wedi'i gynllunio.

"Er gwaetha'r buddsoddiad sylweddol hwn, mae ein system wedi bod o dan bwysau aruthrol dros y diwrnodau diwethaf. Yn ystod y cyfnod heriol hwn, rwyf am roi £10 miliwn yn ychwanegol i'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru er mwyn helpu staff y rheng flaen i ofalu am ein cleifion yn ystod y gaeaf hwn.

"Rydyn ni'n gwybod bod gwasanaethau Gofal Sylfaenol a'r Adran Damweiniau ac Achosion Brys yng Nghymru'n brysur iawn ar hyn o bryd. Mae'r gwasanaeth ambiwlans wedi nodi cynnydd o hyd at 50% yn nifer yr achosion lle mae bywyd yn y fantol o gymharu ag adegau yn ystod cyfnod y Nadolig y llynedd. Cafodd y gwasanaeth 111 ddwywaith gymaint o alwadau na’r disgwyl ar ddydd Calan, ac mae'r gwasanaeth y tu allan i oriau yn parhau i wynebu galwadau mawr. Bydd y cyllid ychwanegol hwn yn gwneud cryn dipyn i helpu i leddfu'r pwysau ar y system.

"Hoffwn ddiolch i holl staff ein gwasanaeth iechyd sy'n dangos gwytnwch mawr wrth fynd ati’n ddiflino i ymateb yn drugarog i'n cleifion. Mae angen canmol eu hymrwymiad a'r gofal maen nhw'n ei roi i'w cleifion yn fawr. Mae'r system yn gweithio oherwydd y staff sy'n gweithio i'n gwasanaeth iechyd. Rwyf yn hynod ddiolchgar iddynt.”