Neidio i'r prif gynnwy

Yn dilyn y tywydd difrifol ar draws Cymru, Vaughan Gething wedi diolch i staff y GIG, y gwasanaethau brys a'r gwasanaethau cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Mawrth 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dywedodd Vaughan Gething:

"Hoffwn i ddiolch o galon i'r holl staff ymroddedig sydd wedi bod yn cynnal ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol dros y diwrnodau diwethaf. Fe gefais fy rhyfeddu wrth eu gweld yn dal ati, mor benderfynol, i sicrhau bod ein hysbytai a'n gwasanaethau gofal sylfaenol a chymunedol, ynghyd â gwasanaethau hanfodol eraill, yn medru parhau i weithredu er gwaetha'r pwysau o bob cyfeiriad. 

"Hoffwn i hefyd ddiolch i'r holl weithwyr llywodraeth leol a oedd wedi sicrhau fod y ffyrdd wedi eu cadw’n glir, a’r gwirfoddolwyr a fu'n cludo staff i'r gwaith ac yn ôl, neu’r rhai a wnaeth unrhyw beth o fewn eu gallu i helpu mewn amodau mor anodd. Hebddynt, byddai mwy fyth o bwysau wedi bod ar y gwasanaeth iechyd, gofal cymdeithasol a'r gwasanaethau brys eraill. 

Wrth i'r tywydd wella, dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd y bydd GIG Cymru angen amser i ddod yn ôl i drefn, yn ogystal â bodloni'r galw arferol o ddydd i ddydd, felly mae'n debygol y bydd rhywfaint o amharu o hyd ar wasanaethau lleol.  

Gall pobl gael yr wybodaeth ddiweddaraf gan fyrddau iechyd lleol, meddygfeydd ac awdurdodau lleol drwy gyfryngau cymdeithasol fel Facebook a Twitter.


Ychwanegodd y Gweinidog Iechyd:

"Rwy'n annog pobl i helpu a gwneud dewis doeth cyn penderfynu pa wasanaeth sydd ei angen. Yr unig adeg y dylech ffonio 999 neu fynd i'r uned damweiniau ac achosion brys yw ar gyfer salwch difrifol neu argyfwng gwirioneddol. 

"Os yw pobl yn ansicr, gallant edrych ar wefan Galw Iechyd Cymru i gael cyngor ynghylch iechyd drwy amrywiol systemau gwirio symptomau, neu i weld pa wasanaethau lleol sydd ar gael. Drwy wneud Dewis Doeth, gallwch chi a'ch teulu gael y driniaeth orau a bydd modd i wasanaethau prysur y Gwasanaeth Iechyd Gwladol helpu'r bobl sydd fwyaf eu hangen. 

"Unwaith eto, hoffwn ddiolch o galon i staff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol, y gwasanaethau cymdeithasol a'r gwasanaethau brys am eu hymroddiad anhygoel a'u gwaith caled yn ystod y cyfnod heriol hwn. Maen nhw wedi bod yn gadarn tu hwnt dan gryn dipyn o bwysau. Hoffwn i hefyd apelio i'r bobl sy'n defnyddio'r gwasanaethau i fod yn amyneddgar wrth i'r staff ddygymod ag effeithiau storm Emma, wrth i ni weithio gyda'n gilydd i sicrhau bod yr holl gleifion yn cael y gofal sydd ei angen arnynt."