Neidio i'r prif gynnwy

Bydd yr ail gam datblygu yn cynyddu capasiti'r cyfleusterau yng Nglangwili.

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Ebrill 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd yr ail gam datblygu yn cynyddu capasiti'r cyfleusterau yng Nglangwili. Bydd mwy o gotiau dibyniaeth fawr, cotiau gofal arbennig, ac ystafelloedd i rieni aros dros nos, yn ogystal â mwy o ystafelloedd geni, theatrau llawdriniaethau, a chilfannau dadebru. Hefyd mae cynlluniau ar gyfer lleoedd parcio ychwanegol i 59 o geir. 

Bydd y cynlluniau hyn yn creu amgylchedd diogel ar gyfer darparu gwasanaethau obstetreg a gwasanaethau i fabanod newydd-anedig yn Ysbyty Glangwili. Maent yn rhoi sylw i'r meysydd sy’n destun pryder, a bod angen gwneud rhywbeth brys yn eu cylch, yn ôl adroddiad y Coleg Brenhinol ar y gwasanaethau mamolaeth, newyddenedigol a phediatreg a ddarperir gan Fwrdd Iechyd Hywel Dda.

Yn ystod ei ymweliad â'r cyfleusterau obstetreg a'r cyfleusterau i fabanod newydd-anedig yn Ysbyty Glangwili, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething, fod y cyllid bellach wedi ei neilltuo.

Wrth siarad yn ystod ei ymweliad, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet:

“Mae'n bleser gen i gymeradwyo £25m o gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer cychwyn ar gam nesaf y gwaith o ailddatblygu'r cyfleusterau obstetreg a'r cyfleusterau ar gyfer babanod newydd-anedig yn Ysbyty Glangwili.

“Bydd y cyllid hwn yn gwella ansawdd, diogelwch ac arloesedd clinigol ar y safle. Bydd yn gwella mynediad at wasanaethau i gleifion a'u rhieni, yn ogystal â gwella llesiant y staff. Bydd y buddsoddiad yn rhoi sylw i'r meysydd a nodwyd yn adroddiad y Coleg Brenhinol ar wasanaethau mamolaeth ym Mwrdd Iechyd Hywel Dda fel meysydd yr oedd pryder yn eu cylch a bod angen rhoi sylw brys iddynt.

“Dylai'r gwaith datblygu hwn wella profiad y claf a'r llety ar gyfer teuluoedd yn sylweddol. Gan y bydd yn uned fwy, ni fydd cymaint o angen i deuluoedd deithio y tu allan i'w hardal i gael gofal am resymau sy’n ymwneud â diffyg capasiti.”

Dywedodd Steve Moore, Prif Weithredwr Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda: 

“Rydyn ni'n croesawu'r newyddion hyn, gan fod menywod, plant, a'u teuluoedd yn haeddu cael llety gwell na'r llety sydd ar gael ar hyn o bryd yn Ysbyty Glangwili. Rydyn ni'n gobeithio y gall pobl yr ardal hyderu y byddwn ni nawr yn bwrw ymlaen yn gyflym i wella'r cyfleusterau hyn.”

Bydd yr ail gam datblygu yn cynnwys:

  • Uned i fabanod newydd-anedig - 4 cot dibyniaeth fawr ac 1 cot sefydlogi, 2 lle ar gyfer cotiau sengl yn y feithrinfa ac 1 corlan ynysu, 8 cot gofal arbennig a 2 ystafell ddwbl i rieni aros dros nos
  • Ward ar gyfer rhoi genedigaeth – 5 ystafell eni safonol, 1 ystafell eni gyda phwll dŵr, ac ardal i 6 gwely ar gyfer dibyniaeth fwy
  • Theatrau obstetreg – 2 theatr llawdriniaethau, cilfannau dadebru 2*2 cot a
  • Lleoedd parcio – 59 o leoedd ychwanegol ar gyfer parcio ceir.
Y gobaith yw y bydd y gwaith yn dechrau cyn yr hydref a'r bwriad yw cwblhau'r cynllun erbyn 2020.