Neidio i'r prif gynnwy

Caiff menywod beichiog yng Nghymru fynediad i brofion sgrinio mwy diogel a chywir ar gyfer syndromau Down, Edward a Patau.

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Ebrill 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cymru yw'r wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno Profi Cynenedigol Anfewnwthiol (NIPT) ar draws y wlad gyfan yn ogystal â'r cynnig sgrinio cynenedigol presennol.

Caiff y prawf ei gynnig i fenywod sydd wedi manteisio ar y cynnig cychwynnol  o sgrinio ac y ceir bod eu risg yn uwch o safbwynt syndromau Down, Edward neu Patau.

Cynigir y prawf NIPT fel dewis amgen i brawf mewnwthiol fel y rhan hon o'r llwybr. Gan fod risg o gam-esgor ynghlwm wrth brawf ymwthiol, disgwylir i gynnig NIPT leihau'r risg hwn gan y disgwylir cynnal llai o brofion mewnwthiol yng Nghymru.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething:

“Mae i'n rhaglen sgrinio cynenedigol ran bwysig o ran rhoi i ddarpar famau'r wybodaeth a'r cymorth y mae arnynt eu hangen drwy gydol eu beichiogrwydd. Rwy'n falch bod Cymru'n arwain y ffordd trwy gynnig NIPT fel rhan o'n rhaglen. Bydd y prawf mwy cywir hwn yn lleihau'r angen am brofion mewnwthiol pellach yn y mwyafrif o achosion, gan leihau nifer y camesgoriadau sy'n gysylltiedig â gweithdrefnau mewnwthiol.”

O ddydd Llun, mae sgrinio cyfun ar gyfer syndromau Edward a Patau yn y tri mis cyntaf i fenywod sy'n cael un babi, a sgrinio cyfun ar gyfer syndromau Down, Edward a Patau yn y tri mis cyntaf mewn achosion lle mae'r fenyw yn disgwyl gefeilliaid hefyd yn cael ei gyflwyno yng Nghymru. 

Mae'r penderfyniad i roi NIPT ar waith yng Nghymru'n dilyn cyngor arbenigol oddi wrth Bwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU. Caiff ei werthuso dros y tair blynedd nesaf.

Dywedodd Sharon Hillier, Cyfarwyddwr Sgrinio, Iechyd Cyhoeddus Cymru:

“Mae'n bwysig bod menywod yn cael eu cefnogi gyda gwybodaeth am y cyflyrau a'r sgrinio sy'n cael ei gynnig er mwyn iddyn nhw wneud y penderfyniad cywir ynghylch ydyn nhw am dderbyn y cynnig hwn.

“Rydyn ni wedi cydweithio'n agos ag elusennau a gweithwyr iechyd proffesiynol i wella'r llwybr a'r wybodaeth yr ydyn ni'n ei rhoi i fenywod beichiog yng Nghymru.

“Rydyn ni wedi achub y cyfle i ddiweddaru'r wybodaeth ysgrifenedig cyn y prawf yn ogystal â'i chynhyrchu fel ffilm fer. Mae gweithwyr iechyd proffesiynol sy'n trafod y sgrinio gyda menywod wedi cael hyfforddiant sydd wedi canolbwyntio ar ddewis personol a gwybodaeth gyfoes am y cyflyrau y mae'r sgrinio'n chwilio amdanynt.”