Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething, wedi cyhoeddi bod £2.5m wedi ei neilltuo i ddatblygu ffyrdd newydd o atal a thrin clefydau anadlol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Mehefin 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Caiff yr arian ei ddefnyddio i greu canolfan arloesol ym maes clefydau anadlol, drwy dynnu ynghyd weithwyr iechyd proffesiynol a phobl o'r byd academaidd a busnes er mwyn cyflymu'r broses o ddatblygu, profi a gweithredu dulliau newydd o fynd i'r afael â chlefydau anadlol.

Drwy ddatblygu cynnyrch a gwasanaethau sy'n ymarferol yn fasnachol, bydd y ganolfan hefyd yn creu swyddi ac yn hybu twf economaidd, yn ogystal â sicrhau’r manteision amlwg i iechyd dioddefwyr. 

Mae'r cyllid wedi ei neilltuo ar gyfer cyfnod o dair blynedd, ac ar ôl hynny disgwylir i'r ganolfan ariannu ei hunan drwy greu elw a denu cyllid o ffynonellau eraill. Mae tri safle o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda yn cael eu hystyried fel lleoliad ar gyfer y ganolfan, a chyhoeddir y penderfyniad ar hynny maes o law.

Hwn bydd y canolfan arloesol gyntaf yn y DU ym maes clefydau anadlol.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething: 

“Mae gwella iechyd anadlol pobl Cymru yn her o bwys i'n gwasanaethau gofal iechyd. Yn 2016-17, roedd 8% o boblogaeth Cymru yn cael eu trin am gyflwr anadlol, ac achosodd clefydau anadlol dros 15% o'r holl farwolaethau a ddigwyddodd yng Nghymru.  Bydd y ganolfan yn nodi syniadau addawol newydd ar gyfer atal clefyd anadlol, neu ar gyfer gwneud diagnosis ohono a'i drin, ac wedyn bydd yn helpu i ddatblygu'r rhain yn gynnyrch a gwasanaethau y gallai'r gwasanaeth iechyd eu defnyddio.”


Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi,  Ken Skates: 

“Mae'r sector gwyddorau bywyd yng Nghymru yn rhagori ar gael y gorau o'i adnoddau mewn modd sy'n golygu ei fod yn llwyddo ar lwyfan y byd, ac mae cyfoeth o dalent i'w gael ymhlith academyddion ac entrepreneuriaid yn y maes hwn. Bydd ein buddsoddiad yn tynnu ynghyd bobl byd busnes ac academyddion i greu cynnyrch a gwasanaethau newydd i helpu i fynd i'r afael â chlefyd anadlol. Yn y tymor hir, bydd hyn yn creu swyddi sgiliau uchel ac yn datblygu diwydiant sydd eisoes yn werth oddeutu £2bn i economi Cymru.”