Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething wedi cyhoeddi £30m o gyllid ychwanegol i fyrddau iechyd er mwyn lleihau rhestrau aros ymhellach ledled Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Mehefin 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae £100 miliwn o gyllid ychwanegol wedi'i roi i'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru i leihau'r amseroedd aros ar gyfer cyfeirio cleifion at driniaeth, i gael diagnosis ac i gael therapi. Mae hyn wedi arwain at y nifer isaf o bobl yn aros dros 36 wythnos i gael eu cyfeirio at driniaeth ers dros pedair blynedd.

Mae gwelliannau tebyg hefyd wedi'u gweld mewn amseroedd aros i gael diagnosis, a'r ffigurau diweddaraf yw'r gorau ers mis Medi 2009. Mae'r un peth yn wir am amseroedd aros ar gyfer therapi, gyda'r nifer ym mis Mawrth 2018 yr isaf ers mis Mehefin 2011.

Bellach, mae byrddau iechyd wedi cyflwyno cynlluniau i gael mynediad at gyllid o'r gronfa perfformiad sy'n werth £30m i leihau rhestrau aros ymhellach erbyn mis Mawrth 2019. Bydd rhaid i'r byrddau iechyd gyrraedd y targedau cyflawni y cytunwyd arnynt i leihau'r rhestrau aros er mwyn cael y cyllid yn llawn.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething: 

"Mae'r cyllid ychwanegol hwn ar gael i fyrddau iechyd er mwyn eu helpu i leihau amseroedd aros mewn meysydd sydd o dan bwysau. Yn ddiweddar, cyhoeddais ein gweledigaeth hirdymor ar gyfer y gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol, sef Cymru Iachach, gyda £100m o gymorth i drawsnewid y ffordd y caiff y gwasanaeth ei ddarparu yn y dyfodol. Ond, yn y tymor byr i'r tymor canolig, mae angen i ni ganfod ffyrdd newydd o leihau amseroedd aros i gleifion sydd eisoes wedi aros yn hirach na'n targedau.

"Bydd angen i fyrddau iechyd gyrraedd y targedau maen nhw'n eu gosod er mwyn cael y cyllid yn llawn. Rwy'n disgwyl gweld gwelliannau sylweddol i'r amseroedd aros fel y gwelwyd yn ystod dwy flynedd gyntaf y gronfa hon."