Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething wedi cyhoeddi y bydd yn rhoi dros £10m i gael cerbydau newydd, mwy gwyrdd yn lle 100 o hen ambiwlansiau a cherbydau eraill i gludo teithwyr.

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Gorffennaf 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd yr ambiwlansiau newydd yn rai haws eu trin, ac yn bodloni safonau allyriadau diweddaraf Euro 6. 

Bydd y fflyd, i'w defnyddio ar draws Cymru, yn cynnwys 25 ambiwlans newydd, 33 cerbyd ymateb brys, 33 cerbyd cludo teithwyr mewn achosion nad ydynt yn rai brys a 9 cerbyd argyfwng arbenigol ar gyfer digwyddiadau mawr. 

Ar hyn o bryd, mae gan Wasanaeth Ambiwlans Cymru fwy na 700 o gerbydau, sy'n gweithredu mewn ardal o fwy na 8,000 o filltiroedd sgwâr ledled Cymru.

Ers 2011, mae Llywodraeth Cymru  wedi buddsoddi bron i £55m mewn cerbydau ambiwlans newydd i Wasanaeth Ambiwlans Cymru. 

Dywedodd Mr Gething: "Rwy'n falch iawn o fedru cyhoeddi'r cyllid hwn o £10.23m i gael cerbydau modern, mwy gwyrdd ac effeithlon o ran tanwydd yn lle rhai o'n hen ambiwlansiau a cherbydau cludo teithwyr. Bydd y buddsoddiad hwn yn golygu bod modd i Wasanaeth Ambiwlans Cymru uwchraddio ei fflyd i sicrhau bod ganddo gerbydau priodol i ddarparu'r gofal gorau posib i bobl Cymru."

Dywedodd Richard Lee, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: "Mae ambiwlansiau a cheir ymateb Cymru gyda'r mwyaf modern ac â'r cyfarpar gorau yn y Deyrnas Unedig. Bydd y cyllid hwn yn caniatáu i ni barhau i gael cerbydau newydd, ac yn bwysicach fyth cael cyfarpar clinigol newydd ynddynt, wrth i'r hen rai gyrraedd diwedd eu hoes. 

"Rhaid i ni gael ambiwlansiau a chyfarpar modern er mwyn medru parhau i gynnig y driniaeth orau bosib i'r claf. Mae hefyd yn bwysig ar gyfer ein staff, sy'n treulio'r rhan fwyaf o'u diwrnod gwaith allan yn teithio yn y gymuned. 

“Rydyn ni'n ddiolchgar iawn i Lywodraeth Cymru am ei chymorth parhaus.”