Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething wedi cyhoeddi y bydd pobl sydd angen triniaeth hunaniaeth rhywedd yn gallu ei chael yng Nghymru am y tro cyntaf o'r hydref hwn ymlaen

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Awst 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd Tîm Rhywedd Cymru yn dechrau gweld cleifion ddiwedd mis Hydref. 

Ar hyn o bryd, mae'r holl gleifion sy'n arddangos dysfforia rhywedd yn cael eu cyfeirio at Glinig Hunaniaeth Rhywedd Llundain lle maent yn cael eu hasesu ac yn cael cynllun ar gyfer eu triniaeth. 

Bydd cleifion yn ardal Caerdydd a'r Fro sydd wedi profi anawsterau wrth geisio cael y meddyginiaethau sydd wedi'u hargymell ar eu cyfer gan y Clinig yn Llundain hefyd yn gallu cael eu presgripsiynau drwy Feddyg Teulu arbenigol o fis nesaf ymlaen. Mae'r datblygiad hwn wedi'i dargedu tuag at yr ardal sydd â'r angen mwyaf, gan fod mwyafrif y cleifion sy'n aros am therapi hormonau yn byw yn ardal Caerdydd. 

Mae'r gwaith yn parhau gyda Byrddau Iechyd a'r Pwyllgor Meddygon Teulu i ddatblygu gwasanaeth hunaniaeth rhywedd cwbl integredig yng Nghymru. 

Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd:

“Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, rydyn ni wedi gweld cynnydd yn y galw am wasanaethau iechyd i bobl drawsryweddol yng Nghymru. Fel rhan o'n hymrwymiad i wella iechyd a llesiant i bawb, rydyn ni wedi buddsoddi £500,000 bob blwyddyn i wella  ein gwasanaethau hunaniaeth rhywedd.

"Mae cyhoeddiad heddiw yn gam cadarnhaol yn y cyfeiriad cywir tuag at y gwasanaeth cwbl integredig rwy'n disgwyl y bydd ar waith y flwyddyn nesaf. Bydd cael tîm arbenigol yng Nghymru yn lleihau pellteroedd teithio a bydd hefyd, dros amser, yn lleihau'r amseroedd aros y mae pobl Cymru yn eu profi ar hyn o bryd." 

Mae Grŵp Partneriaeth Hunaniaeth o ran Rhywedd Cymru wedi bod yn rhan o'r gwaith o gynllunio'r llwybr cyfeirio newydd i gleifion sy'n arddangos dysfforia rhywedd.