Neidio i'r prif gynnwy

Ni ddylai’r ffaith fod unigolyn yn heneiddio olygu bod ei hawliau dynol yn lleihau, yn ôl y Gweinidog Pobl Hŷn, Huw Irranca-Davies, heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Hydref 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

I nodi Diwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn (Dydd Llun 1af o Orffennaf 2018), mae’r Gweinidog wedi ailddatgan ymrwymiad Llywodraeth Cymru i roi lle canolog i hawliau dynol pobl hŷn yng ngwasanaethau cyhoeddus Cymru ac i sicrhau mai Cymru yw’r lle gorau yn y byd i heneiddio ynddo.

Mae gan Gymru hanes hir o weithio gyda phobl hŷn ac ar eu rhan – o gyflwyno’r strategaeth gyntaf ar gyfer pobl hŷn yng Nghymru yn 2003 i sefydlu Comisiynydd Pobl Hŷn cyntaf y byd yn 2008.

Mae Llywodraeth Cymru yn dal yn benderfynol o wella bywydau pobl hŷn. Yn gynharach eleni, gwnaeth y Gweinidog ymrwymiad cyhoeddus y bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi sylw o’r newydd i faterion pobl hŷn.

Mae’r Gweinidogion yn cydweithio’n agos â phobl hŷn a’u cynrychiolwyr, y Comisiynydd Pobl Hŷn a grwpiau eraill sydd â diddordeb, i lunio fframwaith ar gyfer cymdeithas sy’n heneiddio. 

Dywedodd Huw Irranca-Davies:

“I nodi Diwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn, rwy am bwysleisio eto bod Llywodraeth Cymru yn benderfynol o roi lle canolog i hawliau dynol pobl hŷn yng ngwasanaethau cyhoeddus Cymru. Ni ddylai’r ffaith fod unigolyn yn heneiddio olygu bod ei hawliau dynol yn lleihau.

“Gall codi ymwybyddiaeth o’u hawliau dynol rymuso pobl hŷn i gymryd rhan weithredol y broses o sicrhau bod y gofal y maen nhw’n ei gael yn bodloni eu hawl sylfaenol i gael eu trin ag urddas a pharch. Ond rhaid inni hefyd godi ymwybyddiaeth o hawliau dynol ymhlith y cyrff a’r sefydliadau cyhoeddus sy’n gweithio gyda phobl hŷn bob dydd.

“Trwy ddathlu Diwrnod Pobl Hŷn, mae pobl o bob oed yn cael eu hannog i fod yn gadarnhaol eu hagwedd wrth wynebu mynd yn hŷn. Fy nod yw sicrhau mai Cymru yw’r lle gorau yn y byd i heneiddio ynddo ac rwy’n edrych ymlaen at gydweithio â rhanddeiliaid allweddol, y Comisiynydd Pobl Hŷn ac, yn bwysicaf oll, y bobl hŷn eu hunain, i wireddu’r nod hwn."