Neidio i'r prif gynnwy

Mae rhwydwaith o Gydgysylltwyr Iechyd a Llesiant Pelfig yn cael ei greu ar draws Cymru fel rhan o ymateb Llywodraeth Cymru i'r adolygiad ar dâp a rhwyll y wain.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Rhagfyr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y cydgysylltwyr yn gweithio gyda rheolwr llwybr cenedlaethol i gyflawni gwelliannau mewn iechyd pelfig ar draws Cymru. 

Mae'r gwaith yn cael ei arwain gan y Grŵp Gweithredu ar Iechyd Menywod, a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru, sydd wedi darparu £1m y flwyddyn ar gyfer y gwaith hwn. Mae'r grŵp wedi penderfynu y bydd cyllid y flwyddyn gyntaf yn cael ei wario ar sefydlu nifer o swyddi allweddol i gyflawni rhai o argymhellion yr adolygiad ar dâp a rhwyll y wain.

Dywedodd Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd: 

“Mae'r Grŵp Gweithredu wedi gwrando ar bryderon Grŵp Goroeswyr Rhwyll Cymru, ac wedi penderfynu penodi rheolwr llwybr cenedlaethol i gyflawni argymhellion yr adolygiad ar dâp a rhwyll y wain. Bydd hyn yn arwain at sefydlu rhwydwaith o Gydlynwyr Iechyd a Lles Pelfig ym mhob bwrdd iechyd. Bydd ganddynt gefndir clinigol mewn disgyblaeth briodol, ee ffisiotherapi neu reoli poen, a byddant yn gweithio gyda'r arweinydd cenedlaethol i gyflawni'r newidiadau gofynnol i wasanaethau lleol.

“Mae'r grŵp hefyd yn cymryd cyngor gan gleifion a chlinigwyr ynghylch sut i sicrhau darpariaeth gyson o sganiau trawslabia, lle y bo hynny'n briodol, ar draws Cymru.

“Bydd y grŵp yn awr yn ystyried argymhellion yr adroddiad ar wasanaethau endometriosis yng Nghymru a luniwyd gan y Grŵp Gorchwyl a Gorffen Endometriosis.”

Cafodd y Grŵp Gweithredu ar Iechyd Menywod, o dan gadeiryddiaeth Tracy Myhill, Prif Swyddog Gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, ei sefydlu ym mis Mai 2018 i oruchwylio meysydd penodol o iechyd menywod yr oedd angen rhoi sylw iddynt, a'u gwella, ar fyrder.