Neidio i'r prif gynnwy

Caiff yr ystafelloedd yn Ysbyty Brenhinol Alexandra eu defnyddio ar gyfer gwasanaethau cwnsela a chyfweld, ynghyd â darparu lle i swyddfeydd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Ionawr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y cynllun gwerth £40m yn darparu campws iechyd a lles ar safle Ysbyty Brenhinol Alexandra, sy'n adeilad rhestredig Gradd II, ochr yn ochr ag adeilad newydd yn cynnig ystod o wasanaethau cymunedol.

Caiff yr ystafelloedd yn Ysbyty Brenhinol Alexandra eu defnyddio ar gyfer gwasanaethau cwnsela a chyfweld, ynghyd â darparu lle i swyddfeydd.  Yn yr adeilad newydd caiff y gwasanaethau clinigol eu darparu, ynghyd ag ardaloedd ar gyfer triniaethau, gwelyau cymunedol a gwasanaeth anafiadau mân ar yr un diwrnod sy'n gysylltiedig â'r model newydd ar gyfer gofal yn y gymuned.

Mae'r cynlluniau hefyd yn cynnwys darpariaeth ar gyfer ystafell therapïau IV, ward 28-gwely, a gwasanaethau deintyddol cymunedol.

Dywedodd Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd: 

"Bydd Ysbyty Cymuned Gogledd Sir Ddinbych yn ddatblygiad allweddol ar gyfer gofal iechyd yn yr ardal. Bydd yr ysbyty newydd yn darparu ystod o wasanaethau yn nes at y gymuned leol yn y Rhyl, gan hefyd leihau'r pwysau ar wasanaethau yn Ysbyty Glan Clwyd. 

"Bydd y datblygiad hefyd yn dod â manteision mawr i'r ardal, sy'n gysylltiedig â'r cynlluniau adfywio ehangach ar gyfer y Rhyl.

"Rwy'n gwybod pa mor bwysig yw Ysbyty Brenhinol Alexandra i'r gymuned, ac rwy'n falch iawn ein bod wedi cadw'r adeilad hanesyddol ochr yn ochr â chanolfan bwrpasol newydd."

Dywedodd Gary Doherty, Prif Weithredwyr Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: 

“Bydd y datblygiad hwn yn trawsnewid y ffordd rydym yn darparu gofal i bobl sy'n byw yng Ngogledd Sir Ddinbych. 

“Rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar at y potensial sydd gan y prosiect hwn i'n helpu trawsnewid y ffordd y mae gofal iechyd yn cael ei ddarparu yn ardal y Rhyl, a sut y gall gefnogi'r ffordd y mae gwasanaethau'n cael eu darparu yn Ysbyty Glan Clwyd."

Mae disgwyl i'r gwaith adeiladu ddechrau yn Hydref 2020. Bydd yr adeilad clinigol newydd yn cael ei gomisiynu erbyn Gwanwyn 2022 a'r gwaith o ailwampio Ysbyty Brenhinol Alexandra yn cael ei gwblhau erbyn diwedd 2022.