Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw mae'r Gweinidog Iechyd, wedi cadarnhau cam allweddol ymlaen wrth gyflwyno'r cynllun newydd a gefnogir gan y wladwriaeth i ddarparu indemniad esgeuluster clinigol i Feddygon Teulu yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Chwefror 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ac yntau'n siarad yng nghynhadledd flynyddol Conffederasiwn GIG Cymru heddiw yng Nghaerdydd, cadarnhaodd y Gweinidog Iechyd mai  Partneriaeth Cydwasanaethau'r GIG - Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg fydd y partner i weithredu Cynllun Rhwymedigaethau'r Dyfodol (FLS). Ar hyn o bryd maent yn rheoli'r trefniadau indemniad i Feddygon Teulu sy'n gweithio y tu allan i oriau ac indemniad gofal eilaidd a bydd yn goruchwylio'r cynllun newydd o 1 Ebrill eleni. 

Bydd Cynllun Rhwymedigaethau'r Dyfodol yn cyd-fynd cyn belled â phosibl â'r cynllun a gyhoeddwyd yn Lloegr. Bydd hyn yn sicrhau nad yw Meddygon Teulu Cymru o dan anfantais o'u cymharu â meddygon teulu yn Lloegr. Bydd hefyd yn sicrhau na fydd unrhyw effaith negyddol ar weithgarwch trawsffiniol neu recriwtio oherwydd gwahanol gynlluniau sy'n gweithredu yng Nghymru a Lloegr. 

Bydd y cynllun yn cynnwys rhwymedigaethau esgeuluster clinigol sy'n codi o weithgarwch yr holl gontractwyr sy'n darparu gwasanaethau meddygol sylfaenol, staff practis meddyg teulu a gweithwyr meddygol proffesiynol eraill megis meddygon teulu cyflogedig, meddygon locwm, fferyllwyr y practis, nyrsys y practis a chynorthwywyr gofal iechyd.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething: 

“Bydd y cynllun newydd yn darparu mwy o sefydlogrwydd a sicrwydd i Feddygon Teulu yng Nghymru. Bydd yn cefnogi practisau meddygon teulu a chlystyrau gofal sylfaenol wrth iddyn nhw ddarparu gofal Iechyd cynaliadwy a hygyrch.”  

Mae Pwyllgor Meddygon Teulu Cymru a GIG Cymru heddiw, sydd wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddatblygu'r cynllun wedi croesawu'r cadarnhad mai Partneriaeth Cydwasanaethau'r GIG - Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg fydd y partner i weithredu Cynllun Rhwymedigaethau'r Dyfodol.

Dywedodd Dr Charlotte Jones, Cadeirydd Pwyllgor Meddygon Teulu Cymru  

“Mae Pwyllgor Meddygon Teulu Cymru'n cefnogi penderfyniad Llywodraeth Cymru i Wasanaethau Cyfreithiol a Risg i weithredu Cynllun Rhwymedigaethau'r Dyfodol 1 Ebrill 2019. Bydd y cynllun arfaethedig yn rhoi sylw i un o'r elfennau sy'n rhoi'r pwysau ariannol mwyaf ar feddygon teulu, ac yn caniatáu i bob meddyg teulu, timau practis a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill y clwstwr gydweithio'n agosach i drawsnewid gofal sylfaenol yng Nghymru.”

Dywedodd Anne Louise Ferguson, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cyfreithiol  Bartneriaeth Cydwasanaethau'r GIG - Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg 

“Mae Partneriaeth Cydwasanaethau'r GIG - Gwasanaethau Cyfreithiol a Risg yn edrych ymlaen ar ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel i Feddygon Teulu yng Nghymru a fydd yn adeiladu ar ein llwyddiant wrth ddarparu indemniad gofal eilaidd.”