Neidio i'r prif gynnwy

Mae Ken Skates, Gweinidog yr Economi wedi cyhoeddi £25 miliwn i helpu i gefnogi  gwasanaethau bysiau hanfodol ledled Cymru.  

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Mawrth 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Caiff y cyllid o dan y Grant Cynnal Gwasanaethau Bysiau ei ddyrannu’n flynyddol i awdurdodau lleol Cymru drwy fformiwla sy’n adlewyrchu eu poblogaeth a’u nodweddion gwledig neu drefol.  

Caiff y grant o £25 miliwn ei rannu rhwng y 22 awdurdodau lleol, a bydd yn caniatáu i bob awdurdod roi cymhorthdal i wasanaethau bysiau a thrafnidiaeth gymunedol sy’n angenrheidiol o fewn eu hardaloedd.  

Bydd y grant yn ategu gwariant yr awdurdodau lleol eu hunain ar wasanaethau bysiau a thrafnidiaeth gymunedol.  

Meddai Ken Skates:

“Dwi’n falch o gyhoeddi bod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo £25 miliwn i helpu i sicrhau gwasanaeth bysiau cynaliadwy ledled Cymru dros y flwyddyn ariannol nesaf. 

“Mae gwasanaethau bysiau rheolaidd yn sylfaenol i’n system drafnidiaeth gyhoeddus, a byddant yn parhau felly, gan ganiatáu i bobl ledled Cymru gyrraedd y gwaith, apwyntiadau ysbytai, addysg a gweithgareddau hamdden.  

“Maent yn hanfodol i fywydau pobl Cymru ac yn gyfrifol am oddeutu 100 mil o deithiau y flwyddyn.

“Dwi’n falch ein bod wedi gallu cynnal ein lefel o fuddsoddi yng ngwasanaethau bysiau Cymru er gwaethaf setliadau ariannol sy’n mynd yn fwyfwy heriol. 

“Mae hyn yn adlewyrchu ein hymrwymiad i gefnogi ein diwydiant bysiau a darparu rhwydwaith effeithiol o fysiau ar gyfer cymunedau fel rhan o system trafnidiaeth gyhoeddus aml-foddol, integredig ledled Cymru.”