Neidio i'r prif gynnwy

Bydd gyrwyr chwilfrydig wedi sylwi bod gorsaf wefru fawr wedi'i gosod ger Gerddi Alexandra ym mharc Cathays.

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Mai 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, bydd yn cael ei ddefnyddio am y tro cyntaf wrth i Gaerdydd groesawu ei bws trydan cyntaf i'r ddinas.

Fel rhan o brawf wyth wythnos, bydd y Volvo 7900E diweddaraf yn teithio ar hyd y Llwybr 6 arferol, gan fynd â theithwyr o'r ganolfan ddinesig, drwy ganol y ddinas i Fae ysblennydd Caerdydd.

Bydd y prosiect yn cael ei gynnal ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru, Cyngor Caerdydd, Bws Caerdydd, Volvo (cyflenwyr y bws) ac ABB sydd wedi darparu'r orsaf wefru. Bydd Volvo ac ABB yn talu am y cerbyd, y seilwaith, y gwaith o'i gludo a'i gomisiynu, yn ogystal â'r tanwydd ar gyfer y generadur.

Prif nod y prawf hwn yw ceisio profi bod cerbyd trydan yn gallu gweithredu drwy gael ei wefru pan fo angen ar hyd llwybr dynodedig a bod modd rhoi'r seilwaith yn ei le yng Nghaerdydd a dinasoedd eraill yng Nghymru yn y gobaith o'i gyflwyno yn eang.

Rydym yn gobeithio y bydd yn darparu tystiolaeth a fydd yn dangos bod cyflwyno cerbydau trydan yng Nghymru yn gallu arwain at fanteision ariannol ac amgylcheddol, a bod modd i'r cerbyd gyrraedd pen ei daith heb amharu ar yr amserlen.

Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates:

"Rwyf wrth fy modd o groesawu Volvo ac ABB i Gaerdydd, ac yn ddiolchgar i Bws Caerdydd am gymryd yr awenau yn y datblygiad cyffrous hwn yn y ddinas.

"Mae nifer o brofion o’r fath wedi'u cynnal o amgylch y DU, ond dyma'r cyntaf yng Nghymru. Rhaid inni brofi’r prosiect hwn, ac mae penwythnos Gŵyl y Banc yn gyfle delfrydol inni wneud hynny.

"Dyma'r cam cyntaf tuag at gyflawni'r ymrwymiad sydd wedi'i nodi yn ein Cynllun Gweithredu ar yr Economi, sef cael bysys di-garbon o fewn deng mlynedd. Hyderaf y bydd y data yn dangos bod cerbydau trydan yn gallu cyflwyno gwasanaeth o ansawdd, gan wella ansawdd yr aer ar hyd y llwybr dan sylw ar yr un pryd.

"Mae Volvo yn dod â'i fws i Gaerdydd mewn da bryd i ddod ag ymwelwyr i'r Bae i groesawu Ras Cefnfor Volvo. Dyma'r tro cyntaf mewn deugain mlynedd y bydd y digwyddiad cyffrous hwn yn dod i Gymru, ac mae'n wych ein bod yn croesawu'r ras longau a'r bws i'n dinas yn ystod yr un wythnos".


Dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd, Hannah Blythyn:

“Mae gwella ansawdd yr aer yn un o fy mhrif flaenoriaethau. Rwyf wrth fy modd bod Llywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd yn gweithio gyda busnesau i gyflwyno atebion arloesol i leihau llygredd o gerbydau ac i wella ansawdd yr aer yng nghanol eich dinasoedd. Mae’r bysys newydd yn ategu ein hymgynghoriad diweddar ar Barthau Aer Glân a fydd yn mynd i’r afael â’r lefelau gormodol o nitrogen deuocsid.”