Neidio i'r prif gynnwy

Mae Trafnidiaeth Cymru wedi lansio'r broses gaffael ar ran Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaeth awyr Rhwymedigaeth Gwasanaeth Cyhoeddus o Gaerdydd i Ynys Môn.

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Mehefin 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r Gwahoddiad i Dendro wedi'i hysbysebu ar eBorthol GwerthwchiGymru.

Bydd y gwasanaeth awyr Rhwymedigaeth Gwasanaeth Cyhoeddus yn:
  • gwella hygyrchedd, gan olygu bod modd dechrau marchnadoedd newydd ac annog mwy o fuddsoddiad yng Ngogledd-orllewin Cymru
  • cefnogi'r sector twristiaeth drwy wella mynediad i'r rhanbarth
Bydd y cwmni newydd yn cael ei annog i sicrhau bod cymaint â phosibl yn defnyddio'r llwybr trwy brisio a chynlluniau marchnata strategol ac i ddefnyddio dulliau o reoli'r prynu er mwyn sicrhau cymaint o gynhwysiant cymdeithasol â phosib.
Mae'n rhaid i'r cwmni gydymffurfio â rheoliadau Awyrennau Sifil ar gyfer Pobl Anabl a Phersonau â Phroblemau Symudedd.Dywedodd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Ken Skates:
"Mae gwasanaeth awyr Caerdydd i Ynys Môn wedi gweld twf sylweddol yn nifer y teithwyr yn ystod y 12 mis diwethaf. Dwi'n anelu at ddatblygu'r twf hwn a'r cyfleoedd i deithio drwy'r cyswllt hollbwysig hwn rhwng gogledd a de Cymru drwy sicrhau cwmni newydd ar gyfer y gwasanaeth am y bedair blynedd nesaf.Rydyn ni am ddod o hyd i gwmni dibynadwy, profiadol, sefydledig sy'n rhannu ein huchelgais i ddatblygu y llwybr rhwng Caerdydd ac Ynys Môn, gan gynnwys gweithio gyda ni ar yr opsiynau i symud i awyren fwy ac i gynnig cysylltedd gwell i ogledd Cymru."