Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r cyfrannau cyntaf o'r £60 miliwn i gefnogi cynlluniau teithio llesol wedi'i ddyrannu.

Cyhoeddwyd gyntaf:
3 Awst 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Fel rhan o Adolygiad Canol Cyfnod 2018 y Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru, cafodd dros £10 miliwn ei glustnodi ar gyfer prosiectau a phecynnau unigol o gynlluniau lleol ledled Cymru.

Cafodd pob awdurdod lleol eu gwahodd i gyflwyno ceisiadau - un cynllun strategol ac un cynllun neu becyn o gynlluniau lleol ar gyfer pob awdurdod lleol. Daeth 35 o geisiadau i law, gan gynnwys 16 o geisiadau i gynnal cynlluniau strategol, ac 19 o geisiadau i gynnal cynlluniau lleol.

Bydd y  Gronfa Teithio Llesol yn ariannu 11 o gynlluniau strategol ac 13 o gynlluniau lleol ar draws 18 o awdurdodau lleol, i’w dylunio neu eu rhoi ar waith yn y flwyddyn ariannol hon.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Ken Skates: 

“Bydd yr arian hwn yn creu llwybrau teithio llesol newydd ledled Cymru, gan gysylltu cartrefi ag ysgolion, swyddi a’r gymuned leol er mwyn annog mwy o bobl i gerdded neu feicio.  

"Rwy'n dyrannu'r £10.36 miliwn cyntaf i awdurdodau lleol ledled Cymru ar gyfer cynlluniau i hyrwyddo teithio llesol, sy'n cefnogi ein hymdrechion fel llywodraeth i leihau allyriadau carbon a gwella ansawdd yr aer, tra'n cynnwys gweithgarwch corfforol o fewn bywydau pobl, gan sicrhau manteision ehangach o ran iechyd." 

Mae rhai enghreifftiau o'r prosiectau yn cynnwys: 

Sir y Fflint

Strategol - Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy - Seilwaith teithio llesol a bysiau ar Parkway, Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy Parth 2 - £1,070,000

Lleol - Ffordd gyswllt cerdded a beicio tref Treffynnon - Cam 1 - adeiladu llwybr teithio llesol Dyffryn Maes Glas - £697,000

Sir Benfro

Lleol - pecyn teithio llesol Sir Benfro - Abergwaun / Wdig - Ffordd Gyswllt SUP Canol y Dref, Hwlffordd - Ffordd Gyswllt Castle Lake, Arberth - Ffordd Gyswllt Redstone Court i'r Clwb Rygbi, Llandudoch - y Ffin Sirol i'r Angorfeydd, Neyland - A477 Croesfan Pont Westfield Pill £493,000

Powys

Strategol - Pont Y Drenewydd (y 3ydd Bont) - Pont teithio llesol newydd dros yr Afon Hafren £500,000

Lleol - Rhaglen Teithio Llesol Powys - Llanandras Cam ii, Rhan 1 o welliannau teithio llesol a Teithio Llesol y Drenewydd, Pool Road - £450,000.