Neidio i'r prif gynnwy

Mae Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi a Thrafnidiaeth wedi bod yn Manceinion i gyfarfod y cwmni sy'n darparu'r contract gwasanaethau rheilffordd newydd yng Nghymru a'r gororau o fis Hydref.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Medi 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Fe wnaeth yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Ken Skates, a Phrif Weithredwr Trafnidiaeth Cymru Gwasanaethau Rheilffyrdd, Kevin Thomas, cwrdd ag Aline Frantzen, Rheolwr-gyfarwyddwr Metrolink, i fynd y tu ôl i'r llenni a gweld sut y caiff y system lwyddiannus ei rhedeg o ddydd i ddydd.


Yn ystod yr ymweliad, cafodd Ysgrifennydd y Cabinet daith o amgylch Ganolfan Rheoli'r Rhwydwaith, sydd fel ystafell reoli a'r ganolfan gwasanaethu cwsmeriaid, yn ganolbwynt gweithrediadau Metrolink. Caiff y rhwydwaith ei fonitro yma gan ddefnyddio cyfathrebu radio, teledu cylch cyfyng a systemau rheoli tramiau. Caiff y prif negeseuon eu hanfon at yrwyr o'r ystafell reoli pan fydd tarfu ar y gwasanaeth.


Wrth fanteisio ar y cyfle i ddysgu gwersi ynghylch sut y mae Manceinion wedi datblygu eu system ac ar weithredu a gwella rhwydweithiau metro rhanbarthol yn barhaus, dywedodd Ken Skates yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth:


“Byddai'r fasnachfraint newydd ar gyfer y rheilffordd yn sicrhau bod blaenoriaethau allweddol teithwyr yn ganolog, drwy ganolbwyntio ar leddfu pryderon am gapasiti seddi, amseroedd teithio, ac amlder gwasanaethau, ac ar sicrhau fod costau tocynnau yn deg ac yn fforddiadwy a bod y trenau'n lân ac o ansawdd da.” 

"Roedd gennyf ddiddordeb arbennig i ddeall safbwynt y cwsmer - pa elfennau o rwydwaith Metro y mae teithwyr yn ei werthfawrogi fwyaf a sut y gellid defnyddio'r gwersi hyn yng Nghymru.

"Byddwn yn gweithio ochr yn ochr â Gwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru i ddarparu'r blaenoriaethau hyn ledled Cymru a'r rhanbarthau ar y ffin yn Lloegr.

"Megis dechrau yw'r cynlluniau yr wyf wedi'u cyhoeddi hyd yma. Bydd teithio busnes a llesol hefyd yn chwarae rhan hollbwysig, fel y cynlluniau parcio a theithio a chyfnewidfeydd trafnidiaeth.

Yn ystod ei daith o amgylch depo Old Trafford, cafodd Ken Skates y cyfle hefyd i gyfarfod â'r Cynghorydd Mark Aldred, Cadeirydd Pwyllgor Trafnidiaeth Manceinion Fwyaf.