Neidio i'r prif gynnwy

Bydd gwelliannau ar yr A55 ger Llanddulas yn cael eu cwblhau yn gynnar, meddai Ken Skates, yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Hydref 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dechreuodd y gwaith ar danbont Kneeshaw Lupton ger Llanddulas ger Cyffordd 23 ar yr 17 Medi a bydd y ffordd yn cael ei hail-agor yn llawn ddydd Gwener 12 Hydref, chwe niwrnod cyn y diwrnod a drefnwyd yn wreiddiol.

Bu'r gwaith ar danbont Kneeshaw Lupton yn cael ei wneud 24 awr y diwrnod, saith diwrnod yr wythnos, ac mae wedi golygu tynnu'r wyneb, sicrhau bod wyneb y bont yn gwrthsefyll dŵr, trwsio'r concrid a newid cymalau'r bont.

Oherwydd natur y gwaith peirianyddol ac er mwyn sicrhau diogelwch, bydd byrddau yn cael eu gosod a bydd y gwaith yn cael ei wneud y tu ôl iddynt. Mae gwaith hollbwysig ar gymalau'r bont ar bob pen i'r strwythur, a oedd yn golygu cael gwared ar goncrîd  â dŵr, wedi ei wneud o dan orchudd ac i ffwrdd o'r cyhoedd i sicrhau diogelwch.

Bydd pob gwaith ar y gerbytffordd yn cael ei gwblhau erbyn 6am ar 12 Hydref pan fydd y mesurau rheoli traffig yn dod i ben.

Rydyn ni hefyd wedi gweithredu i wrthbwyso'r effaith ar y cyhoedd drwy sicrhau nad ydym yn dechrau’r gwaith ar y gerbytffordd tua'r dwyrain tan y flwyddyn nesaf.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth, Ken Skates:

"Dwi'n falch iawn o gyhoeddi bod y gwelliannau hanfodol i danbont Kneeshaw Lupton ar yr A55 wedi'u cwblhau chwe niwrnod yn gynnar. Mae hyn i raddau helaeth diolch i swyddogion a chontractwyr sydd wedi gweithio'n ddi-flino i ddod â'r gwaith i ben cyn gynted â phosib ac rwy'n diolch iddynt am eu hymdrechion.

"Dwi hefyd am ddiolch i'r cyhoedd sy'n teithio am eu hamynedd wrth i'r gwaith gael ei wneud. Nid ydym fyth yn falch o weld unrhyw darfu ar ein ffyrdd, ond roedd y gwaith hwn yn hollol hanfodol, a gan bod angen gwneud y gwaith gwrthsefyll dŵr mewn tywydd gweddol dda, ei wneud wedi cyfnod prysur yr haf, ond cyn y gwyliau hanner tymor, roedd yr amser iawn i weithredu.

"Mae'r A55 yn ffordd hanfodol i Ogledd Cymru ac mae'r gwelliannau hyn unwaith eto yn ei gwneud yn fwy diogel, cadarn a dibynadwy, materion sy'n flaenoriaeth amlwg. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu ar gyfer y rhanbarth ac mae ein hymrwymiad a'n buddsoddiad yn y rhwydwaith ffyrdd yn dangos hynny yn amlwg."