Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, dywedodd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Eluned Morgan, bod dyfodol y Gymraeg mewn dwylo diogel.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Hydref 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Roedd y Gweinidog yn ymateb i ganlyniadau Arolwg Cenedlaethol Cymru 2017-18, a gyhoeddwyd heddiw. Dengys yr Arolwg bod mwy o bobl 16-24 oed yn dweud eu bod yn gallu siarad Cymraeg neu eu bod yn gallu siarad rhywfaint o Gymraeg nag unrhyw grŵp oedran arall.

Y Cyfrifiad yw’r brif ffynhonnell wybodaeth ar gyfer y gyfran o bobl sy’n medru’r Gymraeg, ond defnyddir yr Arolwg Cenedlaethol i gadw llygad ar dueddiadau ymhlith oedolion rhwng pob Cyfrifiad. Mae’n holi cwestiynau am agweddau at yr iaith, hyder pobl yn ei defnyddio a gallu pobl i’w defnyddio.

Roedd y Gweinidog yn croesawu’r ffaith bod 62% o’r bobl nad oeddent yn medru siarad Cymraeg yn dweud y byddent yn hoffi gallu ei siarad, a bod 85% o’r bobl oedd â pheth Cymraeg eisiau gallu ei siarad yn well. Dywedodd:

“Mae’r Gymraeg yn eiddo i ni i gyd, y rhai ohonom sy’n rhugl ynddi, yn gallu ymdopi, y rhai sy’n dechrau dysgu’r iaith a’r rhai sydd ond yn gallu dweud “Iechyd Da” wrth fwynhau diod ar hyn o bryd. Mae’n newyddion gwych bod cymaint o bobl yn dymuno dysgu’r Gymraeg neu wella’u gallu yn y Gymraeg. Mae’n newyddion gwell fyth bod yr help sydd ei angen arnoch i wneud hynny ar gael i chi.

“O ran dysgu a gwella, mae yna rywbeth at ddant  pawb, boed hynny yn gwrs ar-lein, sesiwn flasu, cwrs Clwb Cwtsh lle mae modd i chi ddysgu gyda’ch plant neu’ch wyrion, cyrsiau seiliedig ar waith neu’n gyrsiau sy’n arwain at gymwysterau ffurfiol. Mae cymaint o ffyrdd gwahanol i ddysgu ac rwyf am annog unrhyw un o’r  62% neu’r 85% yma i fynd ati i ddod o hyd i’r cwrs sy’n gweddu iddyn nhw ac i roi cynnig arni.”

Nid yw’n syndod, mae’n siŵr, mai'r rhai sy'n gallu siarad Cymraeg yn rhugl a'r rhai sy'n defnyddio'r iaith yn ddyddiol yw'r rhai mwyaf hyderus yn ei siarad, tra bod y rhai sy'n llai rhugl neu nad ydynt yn siarad Cymraeg mor aml yn fwy tebygol o ddioddef diffyg hyder ac ofni cael eu barnu wrth siarad.

Ychwanegodd y Gweinidog:

“Mae’n rhaid defnyddio’r iaith yn gyson er mwyn ei dysgu, gwella a magu hyder. Rwyf am annog pawb sydd ag ychydig Gymraeg i’w defnyddio bob dydd er mwyn meithrin eu sgiliau a’u hyder. Mae gan y siaradwyr rhugl waith i’w wneud yn hyn o beth, boed hynny yn anffurfiol drwy annog ffrindiau sy’n ddysgwyr i ddefnyddio’u Cymraeg, neu trwy wirfoddoli gyda’r cynllun ‘Siarad’, sydd yn paru siaradwyr rhugl a dysgwyr am o leiaf 10 awr o sgwrsio dros beint neu goffi.

“Gyda chymaint o gyfleoedd i oedolion ddysgu, a'r iaith ar ei chryfaf ymhlith pobl ifanc 16-24 oed, mae dyfodol yr iaith mewn dwylo diogel.”