Neidio i'r prif gynnwy

Mae Gweinidog y Gymraeg, Alun Davies, wedi cymeradwyo grantiau gwerth £4.2m i hyrwyddo a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Mawrth 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd yr arian yn darparu cyllid craidd a chyllid ar gyfer prosiectau i 77 o sefydliadau yn ystod 2017-18 i ddarparu amrywiaeth o weithgareddau. Mae'r grwpiau a fydd yn elwa'n uniongyrchol o'r gronfa hon yn cynnwys:

  • Yr Eisteddfod Genedlaethol
  • Cymdeithas Eisteddfodau Cymru
  • Mentrau Iaith
  • Merched y Wawr
  • Clybiau Ffermwyr Ifainc Cymru
  • Papurau Bro
  • Urdd Gobaith Cymru
  • Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru

Dywedodd Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Alun Davies AC:

"Ein nod yw hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg mewn bywyd bob dydd ar draws Cymru gyfan, drwy gyfleoedd i ddefnyddio'r iaith, a chefnogi sefydliadau i ddiogelu a chryfhau sefyllfa'r Gymraeg. Mae'r grantiau hyn yn cydnabod cyfraniad y sefydliadau hyn i les yr iaith yn y dyfodol.

"Rydw i wastad wedi credu nad cyfrifoldeb y Llywodraeth yn unig yw dyfodol y Gymraeg. Mae gan gyrff eraill, ar lefel genedlaethol a lleol, cymdeithasau, ysgolion, cyflogwyr, teuluoedd ac unigolion, bob un ei ran i chwarae. Mae'r iaith yn rhan o bwy ydyn ni, ac mae'n iaith i bawb.

"Mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae wrth ddatblygu dyfodol yr iaith, a bydd yr arian hwn yn gwneud llawer i'n helpu i wireddu ein huchelgais o gael miliwn o siaradwyr Cymraeg."