Neidio i'r prif gynnwy

Y Gweinidog yn gweld pa mor llesol yw barddoniaeth i gleifion y GIG

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Gorffennaf 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cyfarfu’r Gweinidog â staff a chleifion sy’n rhan o brosiect Cerddi Byw Nawr, sy’n cael ei redeg gan Llenyddiaeth Cymru o dan ofal yr athrawes a’r Prifardd Mererid Hopwood, cyn-enillydd y Goron a’r Gadair yn yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae Mererid  yn fardd preswyl am gyfnod yn uned gofal lliniarol yr ysbyty.

Mae’r prosiect wedi annog cleifion, eu teuluoedd a’r staff i fynegi eu teimladau am fywyd a marwolaeth yn Gymraeg ac yn Saesneg. Ffrwyth llafur hyn yw datblygu llyfryn digidol o dan y teitl “Cerddi Byw Nawr / Live Now Poems”.

Yn ystod ei hymweliad, gwnaeth y Gweinidog gwrdd â chleifion a staff yn yr ysbyty i glywed mwy am sut mae’r prosiect yn helpu cleifion a’u teuluoedd i ddod i delerau â’u salwch angheuol ac yn rhoi cysur iddynt mewn cyfnod anodd.

Dywedodd y Gweinidog:

“Mae’n fraint cael ymuno â’r cleifion, eu teuluoedd a’r staff yma ym Mronglais i ddathlu pen-blwydd y Gwasanaeth Iechyd yn 70 oed a dod i wybod mwy am Cerddi Byw Nawr. Dyma enghraifft berffaith o sut y gall llenyddiaeth, yn enwedig llenyddiaeth yn eich mamiaith, fod yn gysur ac yn ffordd i rywun fynegi ei deimladau, hyd yn oed ar yr adegau tywyllaf.

“Mae hefyd yn profi bod y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a’i staff yn gwneud llawer mwy na sy’n rhaid. Maent yn sicrhau bod anghenion iechyd a corfforol y cleifion yn cael eu bodloni, a hefyd yn gofalu am les meddyliol ac emosiynol y cleifion a’u teuluoedd. Mae’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol trwy Brydain gyfan yn llawn staff cwbl ymroddgar, sy’n rhoi o’u gorau yn eu swyddi. Maent hefyd yn hynod ofalus o’u cleifion ac yn dangos y ddynoliaeth ar ei gorau. Can mil diolch iddynt am bopeth.”