Neidio i'r prif gynnwy

Cyfarfu Cyd-bwyllgor y Trysorlysoedd (Cymru) i ddechrau trafodaethau ynghylch y trefniadau cyllid a fydd yn cael eu rhoi ar waith pan fydd pwerau trethi newydd yn cael eu datganoli.

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Medi 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd treth dir y dreth stamp a’r dreth tirlenwi yn cael eu datganoli yn 2018 ac mae Deddf Cymru 2014 hefyd yn galluogi i dreth incwm gael ei datganoli’n rhannol.

 

Roedd y Gwir Anrh David Gauke AS, Prif Ysgrifennydd y Trysorlys yno yn cynrychioli Llywodraeth y DU a Mark Drakeford AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol yn cynrychioli Llywodraeth Cymru.

 

Trafododd y Gweinidogion y trefniadau ymarferol ar gyfer cynnal y trafodaethau a chytuno arnynt, gan dynnu sylw at bwysigrwydd rhannu gwybodaeth a chanlyniadau gwaith dadansoddi rhwng y llywodraethau. Nodwyd yr amrywiaeth eang o ddadansoddi a rannwyd eisoes ac roeddent yn awyddus o weld y cydweithio hyn yn parhau.

 

Cytunwyd y bydd yn bwysig rhoi'r diweddaraf i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth y DU am hynt y trafodaethau.

 

Ystyriodd y Gweinidogion y dull a fyddai'n cael ei fabwysiadu mewn perthynas â tri maes allweddol o dan ystyriaeth. O ran cyllid y grant bloc, cytunwyd ar set o opsiynau y dylid ymchwilio iddynt a sut y byddai'r rhain yn cael eu hasesu i ddechrau. O ran benthyg cyfalaf, trafodwyd y sail resymegol dros y trefniadau presennol fel y darparwyd ar eu cyfer yn Neddf Cymru 2014 a chytunwyd y dylid ystyried yr achos dros newid. Yn olaf, o ran rheoli cyllidebau, trafododd y Gweinidogion y trefniadau presennol a chytunwyd y dylid ystyried a oedd y rhain yn dal i fod yn addas.

Cynhelir y cyfarfod nesaf ym mis Hydref.

 

Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DUMedi 2016