Neidio i'r prif gynnwy

Mae Mark Drakeford wedi cyhoeddi fod £850,000 yn rhagor o gyllid yr Undeb Ewropeaidd (UE) yn mynd i fod ar gael i helpu sector peirianneg Cymru i symud ymlaen yn hyderus.

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Hydref 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd y cyllid yn galluogi Academi Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Prifysgol Abertawe i gynnig mwy o gymwysterau, gan gynnwys graddau ymchwil Meistr a Doethuriaeth mewn peirianneg, gyda phrosiectau ymchwil o dan arweiniad y diwydiant, a fydd yn helpu i roi hwb i’r sector peirianneg.

Mae bron i 150 o fyfyrwyr yn dilyn prosiectau ymchwil gydweithredol gyda chwmnïau fel BASF, y Bathdy Brenhinol a Weartech International – yn datblygu technolegau arloesol yn eu diwydiannau eu hunain.

Bydd y cyllid diweddaraf yn galluogi 16 o raddedigion eraill i gael eu recriwtio i weithio ar ymchwil arloesol mewn cydweithrediad â chwmnïau, gan gynnwys TATA Steel.

Cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid y newyddion ynglŷn â’r cyllid newydd gan yr UE ar gyfer yr Academi wrth wneud datganiad i’r Cynulliad Cenedlaethol. 

Mae’n dilyn penderfyniad Llywodraeth y DU i weithredu ar alwadau Prif Weinidog y DU am warant gydol oes, lawn ar gyfer pob cynllun strwythurol a chynllun a ariennir gan fuddsoddiad Ewropeaidd. Bydd Llywodraeth y DU yn sicrhau bod cyllid yn cael ei gwarantu ar gyfer pob cynllun sydd wedi’i gymeradwyo cyn i’r DU adael yr UE. 

Dywedodd yr Athro Drakeford: 

“Mae’r warant hon yn cydnabod pa mor bwysig yw cronfeydd yr UE i Gymru i ddelio â gwahaniaethau economaidd a chymdeithasol. Dyma’r unig benderfyniad cywir a rhesymegol, a fydd yn rhoi cysondeb i gymunedau, busnesau a buddsoddwyr Cymru wrth i drefniadau gael eu gwneud ar gyfer y tymor hwy. 

“Mae’r Cyllid UE rwyf i’n ei gyhoeddi heddiw yn enghraifft bositif arall o sut rydyn ni’n buddsoddi’r adnoddau hanfodol hyn i helpu i ddatblygu arweinwyr medrus iawn a fydd yn gallu cefnogi amrywiaeth o gwmnïau, gan sicrhau eu bod nhw’n parhau i fod ar flaen y gad o ran eu gweithgareddau ymchwil ac arloesi.” 

Mae gwarant estynedig Llywodraeth y DU mewn perthynas â chronfeydd yr UE yn cynnwys:

•           Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop 

•           Cronfa Gymdeithasol Ewrop

•           Cronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop

•           Cronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig – PAC Piler 2

Mae’r warant hefyd yn cynnwys cronfeydd yr UE sy’n cael eu rheoli gan y Comisiwn Ewropeaidd, gan gynnwys rhaglen ymchwil ac arloesi Horizon 2020.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid hefyd: 

“Rydyn ni wedi buddsoddi £830 miliwn o gronfeydd strwythurol yn barod – tua 43% o gyfanswm y dyraniad ar gyfer y cyfnod 2014-20. Mae hyn yn golygu bod ein perfformiad ni’n rhagori ar ardaloedd eraill yn y DU. Rydyn ni hefyd wedi buddsoddi ychydig dros £48 miliwn i gefnogi busnesau a sefydliadau i gael mynediad at Horizon 2020, rhaglen hynod gystadleuol yr UE.

“Parhau i wneud penderfyniadau cyllido cyn gynted ag y gallwn ni yw ein blaenoriaeth ni nawr, er mwyn gwneud cymaint ag y gallwn ni gyda’n dyraniad cyllid a sicrhau bod gweithgareddau yn dechrau mor fuan â phosibl.”

Yn sgil cyhoeddiad y Gweinidog, mae’r cyllid ar gyfer yr Academi Deunyddiau a Gweithgynhyrchu yn cynyddu i £14.8 miliwn, a bydd £9.5 miliwn o’r arian hwnnw yn gyllid gan yr UE.

Dywedodd Dr David Warren, rheolwr prosiect yn Academi Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Prifysgol Abertawe: 

“Bydd y cyllid ychwanegol hwn gan yr UE yn caniatáu inni gynorthwyo diwydiant Cymru ymhellach drwy ein gwaith ymchwil ac arloesi blaengar, a chreu pwll o raddedigion sy’n barod i fod yr arweinwyr diwydiant nesaf.

“Bydd creu’r graddau Meistr a Doethuriaeth hyn yn rhoi unigolion â sgiliau rhagorol mewn diwydiant; unigolion a fydd yn gallu gyrru cynhyrchion a phrosesau’r genhedlaeth nesaf ymlaen a helpu i greu diwydiant cynaliadwy a fydd yn cael ei yrru gan y dechnoleg ddiweddaraf. Bydd y cronfeydd yn cael eu defnyddio i gefnogi ymchwil gan wahanol ddiwydiannau, er enghraifft, gwaith i adfywio’r diwydiant dur drwy ddatblygu technegau gweithgynhyrchu haenau adiol.”