Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford, yn gwahodd pobl i wneud cais i fod yn gadeirydd ac aelodau cyntaf bwrdd awdurdod newydd, sef Awdurdod Cyllid Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Tachwedd 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:
O fis Ebrill 2018 ymlaen, bydd Cymru'n dechrau casglu trethi am y tro cyntaf ers 800 o flynyddoedd, gan fod treth dir y dreth stamp a'r dreth dirlenwi yn cael eu datganoli. 

Mae Llywodraeth Cymru yn sefydlu'r Awdurdod i gasglu a rheoli'r ddwy dreth newydd i Gymru, sef y dreth trafodiadau tir a'r dreth gwarediadau tirlenwi.

Yn ogystal â chasglu a gweinyddu’r trethi newydd, bydd yr Awdurdod yn gwneud y canlynol:

  • Darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth mewn perthynas â threthi Cymru i Weinidogion Cymru a threthdalwyr;
  • Ymdrin â chwynion ac anghydfodau trethdalwyr;
  • Hyrwyddo cydymffurfiaeth o ran trethi;
  • Amddiffyn rhag achosion o efadu trethi ac osgoi trethi; a
  • Chefnogi'r gwaith o ddatblygu polisi trethi Llywodraeth Cymru.

Bydd yr Awdurdod yn gweithredu'n annibynnol ar Lywodraeth Cymru ond bydd yn atebol i Weinidogion Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mewn neges i ymgeiswyr, dywedodd yr Athro Drakeford:

"Bydd y cadeirydd a'r aelodau anweithredol yn chwarae rhan hollbwysig wrth sicrhau bod gan yr Awdurdod y gallu i gasglu refeniw a fydd yn ariannu ein gwasanaethau cyhoeddus, gan wneud yn siŵr fod hyn yn cael ei wneud i'r safon uchaf bosibl.

"Bydd angen i'r Awdurdod sefydlu ei hun yn gyflym. Rwy'n ei weld fel sefydliad hyderus a phroffesiynol sy'n arbenigo yn ei waith ac yn darparu gwasanaeth wedi'i deilwra ar gyfer anghenion Cymru. 

"Mae sefydlu'r Awdurdod yn garreg filltir bwysig yn hanes datganoli ac, os byddwch yn llwyddiannus, byddwch yn chwarae rhan allweddol i'n helpu i ddatblygu'r pwerau trethi newydd. 

"Buaswn yn annog unrhyw rai sy'n credu bod ganddyn nhw'r profiad, rhinweddau a sgiliau angenrheidiol i wneud cais."

Mae rhagor o wybodaeth ynghylch y broses ymgeisio i fod yn gadeirydd yr Awdurdod neu'n aelod anweithredol o'r bwrdd, ynghyd â phecyn gwybodaeth i ymgeiswyr, ar wefan Llywodraeth Cymru. 

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau i fod yn gadeirydd yw 3 Ionawr 2017. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau i fod yn aelodau anweithredol o'r bwrdd yw 6 Chwefror 2017.