Neidio i'r prif gynnwy

Rhaid i'r Gweinyddiaethau Datganoledig chwarae rhan allweddol yn y trafodaethau i adael yr UE 

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Mehefin 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Wrth siarad yn y gynhadledd, bydd yr Ysgrifennydd Cyllid yn dweud bod canlyniad yr etholiad cyffredinol yn golygu nad oes gan Lywodraeth y DU fandad ar gyfer 'Brexit caled', a'i fod yn gyfle i ailbennu rôl y gweinyddiaethau datganoledig yn y trafodaethau i adael yr UE. 

Mewn llythyr diweddar at David Davis ar y cyd â Llywodraeth yr Alban, cyflwynodd Llywodraeth Cymru gyfres o gamau ymarferol i wella lefel yr ymgysylltu â'r pedair gweinyddiaeth ddatganoledig, gan gynnwys rôl y Cyd-bwyllgor Gweinidogion yn y dyfodol, a sefydlwyd i oruchwylio'r trafodaethau.

Mae disgwyl i'r Ysgrifennydd Cyllid ddweud yn y gynhadledd:

"Fe wnaeth canlyniad yr etholiad cyffredinol roi neges bwerus i Lywodraeth y DU nad oes ganddi fandad ar gyfer 'Brexit caled', a bod yn rhaid iddi weithio mewn ffordd wahanol i ddatblygu consensws eang ledled y DU ar gyfer cynnal y broses Brexit.

"Rydyn ni wedi nodi'n glir bod hyn yn gyfle i Lywodraeth y DU ailystyried ei chynlluniau a'i ffordd o ymdrin â rôl y gweinyddiaethau datganoledig yn y trafodaethau. Gan fod y trafodaethau hynny wedi dechrau yn gynharach yn yr wythnos, mae'n fwy pwysig nag erioed i Lywodraeth y DU amlinellu hyn.

"Bydd Brexit yn arwain at oblygiadau mawr ar gyfer dyfodol cyfansoddiadol y DU nad oes modd eu hanwybyddu. Ni allwn droi'r cloc yn ôl i’r cyfnod cyn 1973. Mae datganoli bellach yn rhan annatod o gyfansoddiad y DU ac mae'n rhaid parchu hyn.

“Yr wythnos ddiwethaf, fe wnaethom ni gyhoeddi ein papur yn cynnig cynllun ar gyfer newid cyfansoddiadol sylweddol yn y DU, er mwyn wynebu'r heriau a fydd yn codi yn sgil Brexit i'r gwledydd datganoledig a dyfodol llywodraethiant y deyrnas yn gyfan.  Mae'n amlwg nad yw'r systemau rhynglywodraethol presennol yn addas i'r diben er mwyn gallu mynd ati i ddod i gytundeb a bydd angen diwygio'r rhain wrth inni baratoi i adael yr UE.

"Mae canlyniad yr etholiad hefyd yn gyfle i ailbennu effeithiolrwydd y Cyd-bwyllgor Gweinidogion presennol a sefydlwyd i oruchwylio trafodaethau'r UE. Dyna'r rheswm pam i mi ysgrifennu at David Davis ar y cyd â Llywodraeth yr Alban yn amlinellu cyfres o gamau ymarferol i wella lefel yr ymgysylltu a diwallu ei gylch gwaith gwreiddiol.

"Yn ganolog i'n cynigion mae'r angen brys i ailddechrau cynnal y cyfarfodydd hyn cyn gynted â phosibl a chytuno ar flaenraglen waith gyda mewnbwn ystyrlon ynghylch cyfarfodydd trafod â'r Comisiwn Ewropeaidd. Rydyn ni’n croesawu’r sicrwydd yn Araith y Frenhines bod y llywodraeth yn dymuno datblygu consensws eang, gan gynnwys ar y cyd â’r Gweinyddiaethau Datganoledig – ond nawr yw’r amser i ddangos hynny drwy gymryd camau brys.”