Neidio i'r prif gynnwy

Neithiwr (nos Lun, 14 Mai), gosododd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford flaenoriaethau Cymru ar gyfer y dyfodol wrth i'r DU baratoi i ymadael â'r Undeb Ewropeaidd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Mai 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Wrth siarad yn y diweddaraf mewn cyfres o ddigwyddiadau a drefnwyd gan Cymru dros Ewrop, gosododd chwe blaenoriaeth Llywodraeth Cymru. Mae'r chwe blaenoriaeth yma yn parchu pleidlais Brexit yn 2016, ond yn gosod buddiannau Cymru yn ganolog mewn perthynas newydd gyda'r Undeb Ewropeaidd.

  • parhau i gael mynediad llawn a dirwystr at y farchnad sengl a chymryd rhan mewn undeb tollau 
  • system fudo newydd sy'n cysylltu mudo yn agosach at gyflogaeth
  • sicrhau na fydd Cymru'n colli ceiniog o gyllid o ganlyniad i Brexit - addewid a wnaed yn ystod ymgyrch y refferendwm
  • perthynas gyfansoddiadol sylfaenol wahanol rhwng y llywodraethau datganoledig a Llywodraeth y DU, ar sail parch o'r ddwy ochr 
  • cynnal mesurau diogelu cymdeithasol ac amgylcheddol presennol, gan gynnwys hawliau gweithwyr
  • cyfnod pontio er mwyn osgoi syrthio 'dros y dibyn’

Daw'r araith cyn trafodaeth heddiw ar Gynnig Cydsyniad Deddfwriaethol, sy'n gofyn i'r Cynulliad Cenedlaethol gytuno ar yr agweddau o Fil Ymadael Llywodraeth y DU a fydd yn effeithio ar ddatganoli. 

Dywedodd yr Athro Drakeford:

“Pan ddechreuwyd ar ein trafodaethau gyda Llywodraethau yr Alban a'r Deyrnas Unedig, byddai'r Bil i Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd wedi caniatáu i Lywodraeth y Deyrnas Unedig gymryd rheolaeth o feysydd polisi datganoledig, fel ffermio a physgota, ar ôl Brexit. 

“Rydyn ni mewn sefyllfa wahanol erbyn hyn. Mae Llundain wedi newid ei safbwynt fel bod pob pŵer a maes polisi datganoledig yn gorffwys yng Nghaerdydd, oni bai ein bod ni i gyd yn cytuno i rai materion barhau i weithredu yn unol â rheolau presennol yr Undeb Ewropeaidd dros dro. Bydd y rheiny yn feysydd lle y byddwn ni i gyd yn cytuno bod angen rheolau cyffredin ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan ar ôl ymadael â'r Undeb Ewropeaidd er mwyn sicrhau marchnad fewnol lwyddiannus.

"Mae’r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol yn amddiffyn ac yn cadarnhau datganoli, ond hefyd yn rhoi'r sicrwydd angenrheidiol y bydd y Deyrnas Unedig yn gweithredu'n effeithiol y tu hwnt i'r Undeb Ewropeaidd a'r rheolau cyffredin yr oedd yn eu darparu."