Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford wedi cyhoeddi penodiad is-gadeirydd cyntaf bwrdd Awdurdod Cyllid Cymru heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Medi 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd Dyfed Edwards yn ymgymryd â'i rôl fel is-gadeirydd ar unwaith. Bu Dyfed yn gyfarwyddwr anweithredol i'r Awdurdod ers mis Hydref 2017, pan ffurfiwyd yr awdurdod trethi newydd gan Lywodraeth Cymru.

Wrth gadarnhau'r penodiad, dywedodd yr Athro Drakeford:

"Rwy'n falch iawn o gadarnhau penodiad Dyfed Edwards fel is-gadeirydd cyntaf bwrdd Awdurdod Cyllid Cymru. Mae Dyfed wedi bod ynghlwm â'r Awdurdod ers iddo gael ei ffurfio llynedd, ac mae'n dod â chyfoeth o brofiad i'r rôl."

Dywedodd Cadeirydd Awdurdod Cyllid Cymru, Kathryn Bishop:

"Flwyddyn ar ôl ffurfio bwrdd Awdurdod Cyllid Cymru, rydyn ni'n hynod o falch bod yr Ysgrifennydd Cabinet wedi gwneud y penodiad hwn. Byddwn yn parhau i weithio gyda Dyfed, a chydweithwyr eraill, fel awdurdod treth newydd sy'n codi refeniw pwysig i gefnogi cymunedau ledled Cymru."

Awdurdod Cyllid Cymru oedd yr adran anweinidogol gyntaf i'w sefydlu gan Lywodraeth Cymru, ac fe ddaeth yn weithredol ym mis Ebrill 2018.

Dros y pedair blynedd gyntaf, disgwylir i'r Awdurdod gasglu dros £1bn o refeniw trethi i gefnogi'r GIG, ysgolion a gwasanaethau cymdeithasol.