Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw bydd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford, yn cyhoeddi y bydd busnesau’r stryd fawr a manwerthwyr eraill yng Nghymru yn cael gostyngiad o £2,500 yn eu hardrethi busnes y flwyddyn nesaf.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Rhagfyr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £23.6m i wella ac ehangu cynllun rhyddhad ardrethi’r stryd fawr yn 2019-20.

Bydd tua 15,000 o fusnesau, gan gynnwys siopau, bwytai, caffis a thafarnau yn cael mwy o gymorth i dalu eu biliau ardrethi o fis Ebrill 2019.

Meddai’r Athro Drakeford:

“Y stryd fawr yw calon y gymuned, lle mae pobl yn dod i siopa, bwyta a chymdeithasu.

“Mae’r sefyllfa economaidd bresennol a chystadleuaeth gan y rhyngrwyd a chanolfannau siopa ar gyrion trefi wedi taro rhai o fusnesau’r stryd fawr yn galed.

“Bydd y cynllun rhyddhad ardrethi ar gyfer y stryd fawr, sydd wedi’i wella ar gyfer 2019-20, yn sicrhau bod mwy o dalwyr ardrethi drwy Gymru yn cael cymorth i dalu eu biliau ac yn gallu parhau i ddarparu gwasanaethau pwysig i’w cymunedau lleol.”

Sefydlodd Llywodraeth Cymru gynllun rhyddhad ardrethi’r stryd fawr ym mis Ebrill 2017, i ddarparu cymorth wedi’i dargedu ar gyfer busnesau yr effeithiwyd arnynt gan ailbrisiad annibynnol Asiantaeth y Swyddfa Brisio a chan dwf gwerthu ar y we.

Cafodd ei ehangu yn 2018-19 i roi rhagor o gymorth i fusnesau’r stryd fawr.

Bydd y cynllun diwygiedig ar gyfer 2019-20 yn mynd gam ymhellach  ac yn rhoi gostyngiad o hyd at £2,500 ar filiau ardrethi annomestig y busnesau hynny sy’n gymwys.

Bydd tua 15,000 o fanwerthwyr drwy Gymru sydd ag eiddo â gwerth ardrethol o hyd at £50,000 yn elwa ar y cynllun, a bydd biliau ardrethi yn gostwng i sero ar gyfer eiddo â gwerth ardrethol o hyd at £9,100.

Bydd £2.4m arall cael ei roi i’r awdurdodau lleol i ddarparu rhyddhad ardrethol disgresiynol ychwanegol fel y gallant ymateb i anghenion lleol penodol. Caiff y cyllid hwn ei ddarparu i’r cynghorau drwy’r grant cynnal refeniw yn 2019-20.

Mae hyn yn golygu y bydd £26m yn ychwanegol ar gael i helpu busnesau bach i dalu eu biliau yn 2019-29 - dyma’r swm canlyniadol llawn a dderbyniodd Cymru yng Nghyllideb yr Hydref Llywodraeth y DU o ganlyniad i benderfyniadau a gafodd eu gwneud am ardrethi busnes yn Lloegr.

Mae cynllun rhyddhad ardrethi’r stryd fawr yn ychwanegol at yr ystod eang o gymorth y mae Llywodraeth Cymru’n ei ddarparu i fusnesau bach yng Nghymru. 

Bob blwyddyn, mae’n darparu mwy na £210m i helpu busnesau i dalu eu biliau ardrethi, a’r llynedd cyhoeddodd raglen £100m o fuddsoddiad adfywio wedi’i dargedu i helpu busnesau yn yr ardaloedd lle mae ei angen fwyaf, ynghyd â benthyciadau o £20m ar gyfer canol trefi i helpu i adfywio safleoedd sy’n wag neu’n cael eu tanddefnyddio yng nghanol trefi.

Ychwanegodd yr Athro Drakeford:

“Mae’r estyniad hwn i gynllun cymorth ardrethi’r stryd fawr a’r cyllid ychwanegol ar gyfer rhyddhad disgresiynol, ynghyd â’r cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau bach, sydd ar waith ers mis Ebrill 2018, oll gyda’i gilydd yn cynnig cymorth amserol, wedi’i dargedu, i’r rhai sy’n talu ardrethi ym mhob cwr o Gymru.”