Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Ysgrifennydd Cymunedau a Phlant wedi lansio ymgynghoriad ffurfiol ar gynigion deddfwriaethol i wahardd asiantaethau gosod rhag codi ffioedd ar denantiaid.

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Gorffennaf 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yr ymgynghoriad hwn yw'r cam cyntaf tuag at gyflawni Ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyflwyno'r Bil Ffioedd a Godir gan Asiantau Gosod ar Denantiaid er mwyn mynd i'r afael â ffioedd a godir yn y sector rhentu preifat.

Meddai Mr Sargeant: "Mae'r amser wedi dod i ofyn cwestiynau difrifol am allu unrhyw un i godi ffioedd ar denantiaid pan fyddant yn ymrwymo i denantiaeth yn y dyfodol. 

"Gall ffioedd fod yn broblem fawr i bobl sy'n chwilio am le i fyw. Gall gofyn i denantiaid dalu blaendal, sydd yn aml yn fwy na mis o rent, ynghyd â mis o rent ymlaen llaw a ffi "weinyddol", fod yn broblem fawr i rai a gall achosi i bobl fynd i ddyled.

"Hoffwn wybod i ba raddau y caiff ffioedd a godir, yr hyn y mae'r ffioedd hynny yn ei gwmpasu a'r effaith y byddai gwahardd y ffioedd hyn yn ei chael ar asiantau gosod, landlordiaid, tenantiaid ac unrhyw drydydd partïon sy'n ymwneud â'r sector rhentu preifat. 

Byddwn yn annog unrhyw un sydd â diddordeb i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn a fydd yn helpu i lywio pa ffioedd, os o gwbl, y gellir eu codi yn y dyfodol."