Neidio i'r prif gynnwy

Prif adeiladwyr tai yn cytuno dim ond pan fo'u hangen y bydd contractau lesddaliadol yn cael eu defnyddio.

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Mawrth 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cyhoeddodd y Gweinidog y pecyn mesurau ar ymweliad â'r Quays yn y Barri, a chyfarfu â chynrychiolwyr o Taylor Wimpey a Barratts, sydd â datblygiadau ar y safle.

Yn achos tai a fflatiau sy'n gymwys am gymorth o dan Cymorth i Brynu - Cymru:

  • bydd meini prawf newydd yn ei gwneud yn ofynnol i ddatblygwr gyflwyno rheswm dilys dros farchnata tŷ ar sail lesddaliad
  • bydd yn rhaid i gontractau lesddaliadaol fodloni safonau gofynnol, gan gynnwys cyfyngu'r rhent tir cychwynnol i ddim mwy na 0.1% o werth gwerthu'r eiddo
  • bydd yn rhaid i gytundebau lesddaliadol redeg am o leiaf 125 o flynyddoedd ar gyfer fflatiau a 250 o flynyddoedd ar gyfer tai. 

Bydd Cynllun Achredu Trawsgludo Cymorth i Brynu Cymru yn sicrhau bod trawsgludwyr sydd wedi hyfforddi a chofrestru yn rhoi cyngor clir i bob prynwr o dan Cymorth i Brynu - Cymru.  Eisoes mae gan y cynllun fwy na 150 o aelodau wedi'u hyfforddi ledled Cymru. Y nod yw sicrhau bod pobl yn cael gwybod union oblygiadau eu cytundebau wrth brynu cartref, ynghyd ag unrhyw ymrwymiadau rheolaidd eraill. Yn ogystal â phrynwyr Cymorth i Brynu - Cymru, bydd eraill sy'n prynu cartrefi hefyd yn gallu defnyddio eu gwasanaethau.

Mae Llywodraeth Cymru yn darparu benthyciadau fforddiadwy i adeiladwyr tai llai drwy Gronfa Datblygu Eiddo Cymru, a bydd meini prawf Cymorth i Brynu - Cymru ar lesddaliad yn berthnasol bellach i eiddo a gaiff ei adeiladu drwy'r cynllun hwn.

Dywedodd Rebecca Evans:

"Dw i wrth fy modd na fydd adeiladwyr tai fel Taylor Wimpey, Bellway, Barratts, Redrow a Persimmon yn cynnig tai ar sail lesddaliad bellach, oni bai bod gwir raid. Edrychaf ymlaen at weld datblygwyr eraill yn gwneud yr un ymrwymiad.

"Mae'r mesurau hyn wedi cael eu datblygu mewn cydweithrediad â'r diwydiant drwy ein Rhaglen Ymgysylltu ag Adeiladwyr Tai, gan gynnwys Ffederasiwn Adeiladwyr Cartrefi a Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr.

"Rydyn ni wedi gweithredu'n gyflym, gan gymryd camau penodol, amlwg i fynd i'r afael â phryderon ynghylch lesddaliadau ar gartrefi newydd sbon, a lle mae les eisoes yn rhan o'r ddeiliadaeth, dw i'n sefydlu grŵp i argymell diwygio'r system. Dw i'n bwriadu sefydlu Cod Ymarfer gwirfoddol fel sail i'r mesurau hyn, i wella'r safonau ac i hyrwyddo arferion gorau.

"Dim ond dechrau fy nghynlluniau i fynd i'r afael â'r pryderon ynghylch lesddaliad yw hyn. Dw i ddim wedi diystyru'r posibilrwydd o gyflwyno deddfwriaeth yn y dyfodol. Mae'n bosibl iawn y bydd angen hynny i wneud lesddaliad, neu fersiwn arall ohono, yn addas ar gyfer y farchnad dai fodern."

Dywedodd Anthony Essien, Prif Weithredwr LEASE:

"Rydyn ni'n edrych ymlaen at barhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru a Llywodraeth Lloegr i gefnogi lesddeiliaid. Mae mesurau fel hyn yn dystiolaeth glir o'u bwriad i gefnogi perchnogion cartrefi sydd ar sail lesddaliad nawr ac yn y dyfodol. Bydd LEASE yn gwneud ei orau glas i helpu'r ddwy lywodraeth i wella'r sector ar gyfer ein cwsmeriaid lesddaliad."