Neidio i'r prif gynnwy

Mae Rebecca Evans wedi lansio ymgynghoriad er mwyn cyflwyno safonau ar wasanaethau addasiadau tai.

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Medi 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ar hyn o bryd, mae'r system ar gyfer cyflenwi addasiadau tai yng Nghymru yn gymhleth. Mae hyn yn adlewyrchu'r ystod eang o ffynonellau cyllido a'r amrywiaeth o sefydliadau sy'n rhan o'r broses o drefnu gofal a chymorth.

Mae'r ymgynghoriad yn nodi ystod o safonau y dylai darparwyr gwasanaethau addasiadau tai lynu atynt er mwyn rhoi gwasanaeth sy'n fwy cyson a theg ledled Cymru. Mae hyn yn cynnwys gosod disgwyliadau o ran cyfathrebu ac o ran ansawdd y gwasanaeth a ddarperir. Mae'r safonau hefyd yn cynnwys amserlenni disgwyliedig ac yn egluro pa wiriadau cymhwystra sydd eu hangen ar gyfer pob lefel o addasiadau i gartrefi.

Mae'r ymgynghoriad hefyd yn ceisio rhoi diffiniadau clir o Addasiadau Tai Bychain, Addasiadau Tai Canolig ac Addasiadau Tai Mawr. Er enghraifft, efallai mai addasu ychydig a gwneud ychydig o waith cynnal a chadw yw ‘addasiadau bychain’, pethau fel gosod canllawiau neu socedi ychwanegol. Gallai ‘addasiadau mawr’ olygu adeiladu estyniad neu symud cegin.

Bydd y safonau gwasanaeth yn gymwys i holl addasiadau tai ac yn berthnasol i:

  • Awdurdodau Lleol
  • Asiantaethau Gofal a Thrwsio
  • Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig
  • Cymdeithasau Tai
  • Therapyddion Galwedigaethol
  • Gweithwyr Proffesiynol Gofal Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Dywedodd Rebecca Evans:

“Rydym eisiau sicrhau bod y system ar gyfer darparu addasiadau tai yn llawer symlach, ac y gall unigolion sy'n gofyn am addasiadau ddisgwyl gwasanaeth sy'n gyson o ran safon.

“Mae addasiadau tai wneud lles i unigolion a’u teuluoedd, yn feddyliol ac yn gorfforol. Mae hyn yn lleddfu'r straen cynyddol sydd ar y gwasanaethau rheng flaen. Rwyf eisiau creu system addasiadau tai yng Nghymru sy’n gyson, teg a chyfleus er mwyn i bobl gael y cymorth ychwanegol sydd ei angen arnynt i aros yn eu cartrefi. 

“Rwy'n awyddus i barhau i gydweithio â'r sector i greu lefelau gwasanaeth sy'n gymwys beth bynnag fo’r sefyllfa ddaearyddol neu'r math o lety. Er hynny, hoffwn sicrhau hefyd ein bod yn rhoi hyblygrwydd i ddarparwyr gwasanaeth benderfynu ar y ffordd orau o ddefnyddio'u hadnoddau i fodloni'r safonau hyn. 

“Rydym wedi cydweithio â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Gofal a Thrwsio Cymru, Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, Tai Pawb a llawer o sefydliadau eraill o fewn y sector i greu'r safonau hyn. 

“Rwy'n gobeithio cael clywed llawer mwy o safbwyntiau gan bobl sydd â phrofiad o'r system, er mwyn i ni sicrhau bod y safonau hyn mor effeithiol â phosibl.”