Neidio i'r prif gynnwy

Bydd cynllun arloesol sy'n helpu pobl ddigartref i symud o'r stryd i lety ac yn cynnig cymorth hirdymor iddynt fyw'n annibynnol yn cael mwy na £700,000 gan Lywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Rhagfyr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae'r cyllid yn rhan o'r £30m sy'n cael ei fuddsoddi eleni a'r flwyddyn nesaf i fynd i'r afael â digartrefedd a chysgu allan. 

Mae’r buddsoddiad hwn yn cynnwys:

  • £240,000 i ymestyn prosiect peilot Tai yn Gyntaf Conwy a Sir Ddinbych yn 2019-20
  • Dros £52,000 ar gyfer Cyngor Rhondda Cynon Taf i ymestyn eu prosiect Tai yn Gyntaf llwyddiannus i gefnogi cyn-droseddwyr
  • £68,000 ar gyfer Byddin yr Iachawdwriaeth i redeg prosiect Tai yn Gyntaf ym Merthyr Tudful
  • Dros £548,000 i helpu dau brosiect i weithio'n agos â'i gilydd yng Nghaerdydd. Bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio i barhau â phrosiect peilot Tai yn Gyntaf a reolir gan Fyddin yr Iachawdwriaeth, a hefyd gan Gyngor Caerdydd i sefydlu prosiect peilot Tai yn Gyntaf newydd i fodloni galw lleol.  
Cynlluniwyd Tai yn Gyntaf i gefnogi pobl y mae arnynt angen cymorth sylweddol i'w helpu i symud o'r stryd. Caiff y rheini sy'n cael cymorth gynnig lle i fyw ac wedyn cymorth hirdymor wedi'i deilwra er mwyn eu helpu i reoli tenantiaeth yn annibynnol. 

Dywedodd Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol:

"Gall Tai yn Gyntaf helpu pobl sy'n ddigartref ac sy'n aml ag anghenion cymhleth gan gynnwys salwch meddwl difrifol neu broblemau iechyd meddwl, problemau o ran camddefnyddio cyffuriau ac alcohol, iechyd corfforol gwael a diffyg rhwydwaith ehangach o gymorth.

"Nid yw Tai yn Gyntaf yn addas i bawb sy'n ddigartref - mae dal i fod angen tai â chymorth a llety dros dro. Ond gall chwarae rôl bwysig iawn o ran helpu pobl, yn enwedig y rheini sydd wedi bod yn cysgu allan am gyfnod hir, i allu cynnal tenantiaeth."

Nod Tai yn Gyntaf yw darparu cymorth hyblyg am ba hyd bynnag y mae ei angen. Mae'n canolbwyntio ar yr hyn sydd ei angen ar yr unigolyn i wella a gallu cynnal tenantiaeth ei hun.

Mae prosiectau Tai yn Gyntaf wedi'u cynllunio i sicrhau bod gan yr unigolyn ddewis a rheolaeth - cânt eu hannog i ymgysylltu â gwasanaethau cymorth fel gwasanaethau iechyd meddwl neu gamddefnyddio sylweddau, ond nid yw'n ofynnol iddynt wneud hynny er mwyn cael cymorth.

Ychwanegodd hi:

"Mae'r gost o gefnogi pobl tra eu bod ar y stryd, o ran gwasanaethau iechyd, gwasanaethau brys a chyllidebau heddlu, yn fwy o lawer na'r gost o fynd i'r afael â'u digartrefedd. Rydym yn anelu at gefnogi'r bobl fwyaf agored i niwed yng Nghymru, ac mae Tai yn Gyntaf yn fuddsoddiad doeth a all arbed arian, ac achub bywydau, yn yr hirdymor."