Neidio i'r prif gynnwy

Bydd yn haws i bobl adeiladu eu tai eu hunain yng Nghymru, diolch i gynllun newydd a fydd yn cael ei lansio eleni.

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Ionawr 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Drwy gynllun Hunanadeiladu Cymru:

  • bydd Banc Datblygu Cymru yn cynnig benthyciadau ar blotiau y cytunir arnynt ymlaen llaw
  • ni fydd angen dechrau ad-dalu'r benthyciad tan y bydd morgais ar y cartref newydd a bydd hynny'n caniatáu i bobl adeiladu eu cartref eu hunain a medru talu costau byw wrth iddynt wneud hynny
  • bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn gallu  dewis defnyddio adeiladwr cymeradwy neu wneud y gwaith eu hunain mewn rhai amgylchiadau
  • bydd awdurdodau lleol a chymdeithasau tai yn trefnu bod plotiau ar gael ar safleoedd a fydd wedi cael caniatâd cynllunio a lle bydd yr holl ofynion o ran yr hyn fydd ei angen ar safle wedi'u cwblhau
  • bydd ‘Pasbort Plot’ ar gyfer pob plot, a fydd yn cynnwys dyluniadau cymeradwy, amcangyfrif o gost y gwaith adeiladu ac opsiynau a fydd yn caniatáu i bobl roi eu stamp eu hunain ar y cartref
  • bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn gallu sicrhau plot drwy dalu blaendal o 25% o gost y plot. Llywodraeth Cymru fydd yn darparu gweddill y cyllid drwy Banc Datblygu Cymru.

Bydd cyfanswm o £210 miliwn yn cael ei fuddsoddi yn ystod oes y cynllun, a hynny oherwydd y bydd y buddsoddiad cychwynnol o £40 miliwn gan Lywodraeth Cymru yn cael ei ailgylchu. 

Dywedodd Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: 

“Rydyn ni'n awyddus i lawer yn fwy o bobl yng Nghymru fedru adeiladu eu cartrefi eu hunain, nid dim ond yr aelwydydd mwyaf breintiedig. Gall dod o hyd i'r tir, mynd i'r afael â'r gofynion cynllunio a medru fforddio hunanadeiladu, gan dalu costau byw ar yr un pryd, fod yn gryn rwystr.

“Rydyn ni wedi lansio'r cynllun hwn mewn partneriaeth â'r awdurdodau lleol er mwyn chwalu’r holl rwystrau hyn. Mae hon yn ffordd i bobl sydd am aros yn eu hardal leol ddod yn berchenogion ar eu cartrefi eu hunain er nad oeddent yn gallu fforddio prynu yno yn y gorffennol. Mae'n cynnig cyfle hefyd i bobl hŷn a phobl anabl adeiladu tai pwrpasol a fydd yn diwallu eu hanghenion nhw yn y cymunedau lle maen nhw’n dymuno byw.

“Yn ôl y ffigurau, dim ond 70-75% o werth terfynol y tŷ hwnnw mae'n ei gostio i adeiladu'ch tŷ eich hun, oherwydd nad oes angen i ddatblygwr wneud elw. Mae hynny'n golygu bod perchennog y tŷ ar ei ennill. Dim ond rhyw 10% o'r cartrefi yn y DU sy'n rhai mae'r perchennog yn eu hadeiladu ei hun, sy'n gyfradd is o lawer nag mewn gwledydd eraill ledled y byd. 

“Wrth inni fynd ati i drefnu bod rhagor o dai ar gael, bydd y cynllun hwn yn helpu pobl na fydden nhw'n meddwl codi eu tai eu hunain fel arfer, i ystyried hynny o ddifri'.  

“Bydd y cynllun yn cael ei lansio ddiwedd y gwanwyn, a bydd rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Eich Cartref yng Nghymru dros y misoedd sydd i ddod.”

Dywedodd y Gweinidog  Cyllid, Rebecca Evans:

“Dwi'n falch iawn ein bod yn defnyddio'r cyllid cyfalaf yn ein Cyllideb i gefnogi cynlluniau fel Hunanadeiladu Cymru, gan roi help llaw i bobl adeiladu eu cartrefi eu hunain a chan roi hwb i'n marchnad dai ac eiddo ar yr un pryd.”

Meddai Cenydd Rowlands, Cyfarwyddwr Eiddo gyda Banc Datblygu Cymru:

"Mae Hunan-Adeiladu Cymru yn gynllun newydd cyffrous ac arloesol, a reolir gan Fanc Datblygu Cymru ac fe'i anelir at gefnogi marchnad dai Cymru. Trwy'r cynllun hwn, rydym yn anelu at chwalu'r rhwystrau sy'n aml yn atal pobl rhag ymgymryd â'r her o adeiladu eu cartrefi eu hunain a helpu i wireddu eu breuddwydion. Mae'r cynllun yn ategu cronfeydd eraill yr ydym yn eu rheoli sy'n canolbwyntio ar helpu'r farchnad eiddo."

Dywedodd Andrew Baddeley-Chappell, Prif Swyddog Gweithredol y Gymdeithas Genedlaethol Adeiladu Teilwredig a Hunanadeiladu: 

"Mae'r rhan fwyaf ohonon ni'n dyheu am gael adeiladu ein cartrefi'n hunain, ond er gwaetha’'r twf yn y sector, does dim digon yn gwireddu'r freuddwyd honno ar hyn o bryd. Mae rhoi'r awenau i'r unigolyn sy'n berchen ar y tŷ yn arwain at adeiladu rhagor gartrefi o ansawdd gwell gan sicrhau gwell gwerth am arian. Mae'n helpu i greu cwlwm rhwng y perchennog a'r gymuned lle mae cartrefi o'r fath yn cael eu hadeiladu. Mae'r pecyn hwn o fesurau'n anfon neges glir bod Cymru yn croesawu ac yn cefnogi pobl sydd am hunanadeiladu ac rydyn ni'n hynod gyffrous  am y manteision a ddaw yn sgil y cyhoeddiad hwn."