Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw ymwelodd yr Ysgrifennydd Cymunedau a Phlant, Carl Sargeant â Chanolfan y Teulu yn y Barri i weld manteision y rhaglen Dechrau'n Deg, ar waith.

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Mehefin 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mewn ardaloedd Dechrau'n Deg mae gofal plant rhan-amser o ansawdd uchel ar gael i blant 2-3 blwydd oed, yn ogystal â lefel uwch o wasanaeth gan Ymwelwyr Iechyd a chymorth rhianta. Dechreuodd y rhaglen, sy'n werth £367 miliwn, yn 2012 a chafodd dros 37,000 o blant a'u teuluoedd eu cefnogi ganddi y llynedd. 

Yn ystod ei ymweliad â Chanolfan y Teulu, sy'n darparu gofal plant drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg i 96 o blant bob dydd, cafodd y Gweinidog sgwrs â rhieni a darparwyr gofal plant am gynlluniau Llywodraeth Cymru i gynnig 30 awr yr wythnos o addysg a gofal y blynyddoedd cynnar am ddim i blant sy'n 3 a 4 blwydd oed ar gyfer rhieni sy'n gweithio, a hynny am 48 wythnos y flwyddyn. 

Roedd Mr Sargeant yn awyddus i wrando ar eu barn ynghylch sut y gallai'r cynllun newydd gwrdd ag anghenion rhieni yn y ffordd orau.

Dywedodd:

“Mae rhieni, menywod yn arbennig, yn dweud wrthon ni bod problemau o ran dod o hyd i ofal plant fforddiadwy yn un o'r rhesymau pam nad ydyn nhw'n ceisio am waith â thâl. Dyna pam mae darparu 30 awr o ofal plant am ddim i blant sy'n 3 a 4 blwydd oed ar gyfer rhieni sy'n gweithio, a hynny am 48 wythnos y flwyddyn, yn un o brif flaenoriaethau’r llywodraeth hon. Mewn gwirionedd, hwn yw'r cynnig mwyaf hael yn y DU. 

“Fe fydd gofal plant fforddiadwy, sydd ar gael yn hwylus yn galluogi rhieni i weithio, gan gefnogi ein hymdrechion i wella twf economaidd, trechu tlodi a lleihau anghydraddoldebau. Bydd hefyd yn darparu cyfleoedd a manteision yn y tymor hir ar gyfer ein plant ac yn gwella eu cyfleoedd bywyd.

“Mae hwn yn ymrwymiad pwysig iawn, felly rydyn ni'n benderfynol o lwyddo. Dyna pam rydyn ni mor awyddus i siarad â rhieni a'r bobl hynny sy’n gweithio yn y sector gofal plant i ddeall yr hyn sydd ei angen a'r ffordd orau o sicrhau y bydd yn gweithio i bawb.”