Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, ymwelodd Carl Sargeant, yr Ysgrifennydd Cymunedau â Chanolfan Fenywod y Gogledd er mwyn gweld sut mae cyllid Llywodraeth Cymru wedi cyfrannu at adnewyddu’r adeilad.

Cyhoeddwyd gyntaf:
22 Medi 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

‘Siop un stop’ yn y Rhyl yw’r ganolfan, ac mae’n cynnig gwybodaeth, cefnogaeth a hyfforddiant i fenywod sydd wedi’u cam-drin yn y cartref ar faterion sy’n ymwneud ag iechyd, llesiant a gwaith. Mae’r ganolfan yn darparu gwasanaethau ar gyfer tua 80 o fenywod bob dydd, ac mae mwy na 40 o wirfoddolwyr yn helpu.

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £475,000 er mwyn prynu ac adnewyddu’r adeilad ers 2009, drwy’r Grant Gwasanaethau Cam-drin Domestig. 

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet: 

“Mae’r hyn dwi wedi’i weld yma heddiw wedi gwneud argraff fawr arna i. Mae’r ganolfan wedi gweithio i wella iechyd, hyder a bywoliaeth llawer o fenywod, gan drawsnewid eu bywydau a chynnig gobaith iddyn nhw.

“Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wneud ei gorau glas i helpu dioddefwyr trais a cham-drin domestig ac i sicrhau eu bod yn cael eu cefnogi ac yn gallu byw’n ddiogel o fewn eu cymunedau. Mae gallu darparu gwasanaethau hanfodol mewn amgylchedd mor groesawgar yn hollbwysig i hyrwyddo eu hurddas a’u parch.”