Neidio i'r prif gynnwy

Mae Cynllun Cydraddoldeb Strategol 2016-2020 Llywodraeth Cymru wedi cael ei gyhoeddi.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Rhagfyr 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dywedodd Carl Sargeant, yr Ysgrifennydd dros Gymunedau a Phlant, ei fod hefyd wedi cyhoeddi Cynllun Gweithredu ar gyfer Gwybodaeth a Chyngor a Chynllun Cyflawni Cynhwysiant Ariannol Llywodraeth Cymru yr wythnos hon – dau gynllun sy'n rhan o gyd-destun y Cynllun Cydraddoldeb Strategol. 

Dywedodd Carl Sargeant:

"Mae ein hamcanion cydraddoldeb wedi cael eu datblygu i sicrhau newidiadau go iawn o ran ein ffyrdd o weithio. 

"Maent yn sicrhau bod cyflogaeth a gwasanaethau cyhoeddus yn deg, yn hygyrch ac yn ymateb i anghenion pobl, a bod cymunedau yn gynhwysol." 

Dywedodd yr Ysgrifennydd dros Gymunedau fod y Cynllun Cyflawni Cynhwysiant Ariannol yn dweud sut bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda sefydliadau partner – a hynny yng Nghymru ac ar lefel y Deyrnas Unedig – er mwyn symud tuag at gymdeithas yng Nghymru lle mae pobl yn cael eu cynnwys yn ariannol.

Ychwanegodd:

"Mae’r Cynllun Cyflawni yn tynnu sylw at y cysylltiad rhwng cynhwysiant ariannol a blaenoriaethau allweddol eraill, fel mynd i'r afael â thlodi ac annog camau tuag at gyflogaeth. Yn arbennig, mae cysylltiadau cryf â’n Cynllun Gweithredu ar gyfer Gwybodaeth a Chyngor, sy’n dweud sut byddwn yn gweithio gyda phartneriaid i sefydlu rhwydwaith cynhwysfawr o ddarparwyr gwybodaeth a chyngor y sicrhawyd eu hansawdd.  Mae hefyd yn cyd-fynd â chamau mewn strategaethau a gyhoeddwyd gan bartneriaid allweddol, gan gynnwys Strategaeth Galluedd Ariannol Cymru a Strategaeth Undebau Credyd Cymru. 

"Rydym am wneud yn siŵr bod ein ffordd o lywodraethu yn cael cymaint o ddylanwad â phosib o ran sicrhau bod ein cymdeithas yn fwy teg ac yn fwy cynhwysol.

"Dros y pedair blynedd nesaf, bydd ein Hamcanion Cydraddoldeb yn mynd i'r afael â'r prif heriau cydraddoldeb sydd bwysicaf i bobl Cymru. Byddant yn ein helpu i gyflawni'r Nodau Lles er mwyn i ni allu parhau i ddangos ein hymrwymiad traws-lywodraethol i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb. 

"Bydd y ffocws strategol a hirdymor hwn ar fynd i'r afael ag anghydraddoldeb yn sicrhau ein bod yn parhau i gymryd camau breision tuag at ein gweledigaeth o Gymru decach yn 2016-2020."