Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Ysgrifennydd Cymunedau a Phlant wedi cyhoeddi swm o £3,734,989 i wella cyfleusterau cymunedol ledled Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Mehefin 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd tri phrosiect ar ddeg yn rhannu’r arian yn ystod 2017/18 o dan raglen Cyfleusterau Cymunedol Llywodraeth Cymru.

Mae’r rhaglen yn rhoi grantiau cyfalaf hyd at £500,000 i ddatblygu a gwella cyfleusterau i gymunedau gyda’r nod o fynd i’r afael â thlodi a’i effeithiau.

Mae’r 13 prosiect fydd yn derbyn arian oll yn rhoi cyfle i bobl fanteisio ar wasanaethau a gweithgareddau a fydd, yn ei dro, yn rhoi mwy o gyfleoedd iddynt ac yn helpu i atal neu liniaru tlodi. Ymhlith y cyfleusterau fydd cyfleusterau chwaraeon, llety mewn hosteli ar gyfer pobl ifanc ddigartref a chyfleusterau llyfrgelloedd. Mae saith prosiect mewn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf.

Gan gyhoeddi’r arian fydd ar gael wrth iddo ymweld â Chanolfan ASK yn y Rhyl, sef canolfan a gafodd arian o dan y cynllun yn y gorffennol, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet Carl Sargeant:

“Mae mwy i’r cynllun yma na gwella adeiladau yn unig. Wrth wneud cais am y grantiau hyn, mae mudiadau cymunedol wedi gorfod dangos sut y bydd y cyfleusterau maen nhw’n eu cynnig yn darparu gwasanaethau sy’n hanfodol i’r gymuned ac a fydd yn helpu i atal neu fynd i’r afael â thlodi. Er enghraifft, gweithgareddau ar gyfer Cymunedau yn Gyntaf neu Deuluoedd yn Gyntaf; rhedeg banc bwyd, cynnal gwasanaethau cynghori neu achub gwasanaeth a fyddai fel arall yn cael ei golli yn y gymuned, er enghraifft siop neu lyfrgell.

“Mae arian blaenorol o dan y cynllun hwn wedi bod o fudd i gymunedau yng Nghymru ac i fywydau pobl leol o ddydd i ddydd. Er mai dyma’r tro olaf i’r arian gael ei ddyfarnu o dan y trefniadau ariannu presennol bydd cynllun diwygiedig yn ailagor yr haf yma.”