Neidio i'r prif gynnwy

Mae chwech parc a safle treftadaeth yn y Cymoedd i’w henwi fel y Pyrth Darganfod cyntaf, ac fe fyddant yn rhannu buddsoddiad gwerth £7 miliwn fel rhan o'r gwaith i greu Parc Rhanbarthol y Cymoedd

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Tachwedd 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cadeirydd y Tasglu Gweinidogol ar gyfer Cymoedd y De, Alun Davies, gyhoeddodd mai’r pum safle cyntaf oedd Parc Gwledig Cwm Dâr, Castell Caerffili, Fforest Cwmcarn, Canolfan Ymwelwyr Treftadaeth, Byd Blaenafon a Pharc Cyfarthfa y Parc Gwledig Bryngarw.

Dywedodd yr Ysgrifennydd Llywodraeth Leol, Alun Davies:

"Mae Parc Rhanbarthol y Cymoedd wrth wraidd ein huchelgais i helpu cymunedau'r Cymoedd i wneud y gorau o'u treftadaeth naturiol a diwylliannol gyfoethog er mwyn darparu manteision cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol go iawn. 

"Mae ein Cymoedd yn cynnwys tirweddau naturiol a thrysorau diwylliannol gwych. Bydd Parc Rhanbarthol y Cymoedd yn sbarduno gwaith i godi eu proffil yn rhyngwladol, tra'n eu cysylltu’n well â'n trefi a'n pentrefi ac annog ffyrdd o fyw mwy egnïol.”

Bydd y buddsoddiad o £7 miliwn yn dechrau cysylltu’r Cymoedd gyda llwybrau cerdded a llwybrau beicio o ansawdd uchel. Bydd yn cefnogi datblygiad rhwydwaith o ucheldiroedd, coetiroedd, gwarchodfeydd natur, parciau gwledig, afonydd, cronfeydd dŵr a chamlesi, yn ogystal â safleoedd treftadaeth ac yn eu cysylltu â'n trefi a'n pentrefi. 

Heddiw, bydd Alun Davies yn cyhoeddi'r Pyrth Darganfod fel rhan o ddatganiad llafar a fydd yn rhoi diweddariad i Aelodau Cynulliad ar gynllun Cyflawni Ein Cymoedd, Ein Dyfodol ar gyfer 2018. 

Dywedodd:

“Fel rhan o'r gwaith hwn, rwyf wedi ymweld â pharciau rhanbarthol eraill ar draws Ewrop, ac mae gan y Safleoedd Darganfod a gyhoeddwyd heddiw lawer iawn i'w gynnig i ymwelwyr. O’r beicio mynydd gwych sydd ar gael yn Fforest Cwmcarn i hanes diwydiannol Blaenafon a holl fawredd Castell Caerffili, mae cymaint i'w gynnig. Gyda'r buddsoddiad hwn byddwn yn gweithio i wneud y safleoedd hyn yn enwog yn fyd-eang, tra'n gwneud mwy i ddenu pobl leol i'r dirwedd a'r dreftadaeth sydd ar garreg eu drws.”