Neidio i'r prif gynnwy

Mae dyfais gan gwmni technoleg o Gymru, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, yn denu sylw byd-eang.

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Gorffennaf 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dim ond ddiwedd 2015 y lansiodd Byerley Technologies o Gwmbrân y Tendon Manager ac eisoes mae wedi denu ymholiadau o Dubai, Awstralia a'r Almaen.  Mae’r dechnoleg yn sicrhau fod ceffylau ar eu gorau ar gyfer cystadlu ac mae hefyd yn eu helpu i wella ar ôl anafu. 

Bu cefnogaeth Llywodraeth Cymru, gyda chefnogaeth arian yr Undeb Ewropeaidd, o gryn help wrth ddatblygu’r Tendon Manager. 

Mae’n gallu canfod gwendid drwy dynnu lluniau o wres y ceffyl.   Mae’r camerâu lluniau gwres o’r ansawdd gorau, yn gallu dangos 19,000 picsel ar 100 ffrâm yr eiliad.  Mae’r ddyfais yn gallu dangos manylion niweidiau i’r cyhyrau, mae'n nhw'n aros yn gynhesach na chyhyrau heb eu niweidio.  Mae gwybod bod ceffyl wedi'u anafu'n golygu nad yw'n cael gormod o ymarfer a’i fod yn cael digon o amser i wella.  

Cyn i Tendon Manager ddod ar y farchnad, y ffordd orau o ganfod pa mor gyflym yr oedd cyhyr yn oeri oedd wrth i'r hyfforddwr redeg ei law drosto.  Gall yr hyfforddwyr gorau ganfod gwahaniaeth mewn tymheredd o tua tair gradd, ond gall Tendon Manager ganfod gwahaniaeth o ddim ond 0.2 gradd.  

Y cywirdeb hwn, nad oedd ar gael o’r blaen, sydd wedi ennyn cymaint o ddiddordeb yn y ddyfais yn y cylchoedd rasio ceffylau, lle mae’r anifeiliaid gorau un yn werth miliynau o bunnau. 

Meddai Ken Skates, yr Ysgrifennydd Cabinet Dros yr Economi a’r Seilwaith: 

“Mae’n braf iawn gweld cwmnïau megis Byerley Technologies yn gwneud y gorau o'r arian arloesedd sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru a bod eu cynnyrch yn denu diddordeb y cymunedau rasio ceffylau dros y byd i gyd. 

“Mae gennym ni lawer o fusnesau hynod arloesol yng Nghymru a'r her i ni yw sicrhau fod gan y cwmnïau hyn yr arian y maen nhw ei angen i ddylunio ac adeiladu’r dechnoleg arloesol sydd o fewn eu gallu er mwyn gwireddu eu llawn botensial.”

Meddai Steve Hudd, rheolwr gyfarwyddwr Byerley Technology Ltd:  

“Mae hwn yn gynnyrch hynod gyffrous a dyw hi’n ddim syndod ei fod yn denu sylw byd-eang, mae’n hollol amlwg beth fydd y fantais i hyfforddwyr ceffylau rasio ym mhobman.  

“Gyda chymorth ariannol drwy broses Ymchwil a Datblygu Llywodraeth Cymru roedd y ffrwyn ar ein gwar wrth gynnal ymchwil briodol a thrylwyr a gwneud ein gorau i feddwl yn arloesol.  Mae’r cynnyrch sydd wedi’i ddatblygu'n dyst o hynny."

I ganfod rhagor am Byerley Technologies, y cynnyrch Tendon Manager a’r gefnogaeth a ddaeth drwy Lywodraeth Cymru - Busnes Cymru (dolen allanol).