Neidio i'r prif gynnwy

Mae cynlluniau i gynyddu nifer y menywod a merched yng Nghymru sy'n astudio pynciau STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg)

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Ionawr 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

I ddathlu'r cyhoeddiad, mae'r Gweinidog hefyd wedi cadarnhau y bydd yn cynnal digwyddiad WISE (Menywod mewn Gwyddoniaeth, Technoleg a Pheirianneg) yn y Senedd, Caerdydd, ar 13 Mawrth. Bydd noddwr WISE, Ei Huchelder Anne y Dywysoges Frenhinol, yn mynd i'r digwyddiad.


Bydd y digwyddiad yn dathlu ac yn hyrwyddo gwerth menywod mewn swyddi STEM yng Nghymru ac yn gwella momentwm ynghylch argymhellion yr adroddiad.  


Adroddiad annibynnol yw Menywod Dawnus ar gyfer Cymru Lwyddiannus, y gwnaeth Llywodraeth Cymru ei gomisiynu a'i gyhoeddi y llynedd. 


Nod yr adroddiad, a arweinir gan Brif Gynghorydd Gwyddonol Cymru, Yr Athro Julie Williams, yw mynd i'r afael â'r prinder mawr o fenywod mewn swyddi STEM yng Nghymru, a gweddill y DU. Mae'n nodi'r angen i newid agwedd y gymdeithas a chael gwared ar rwystrau presennol a chreu'r gweithlu medrus sydd ei angen i gefnogi dyfodol twf economaidd Cymru.


Mae'n cynnwys 33 o argymhellion ynghylch delio â diffyg cynrychiolaeth a gallu i gadw menywod mewn swyddi STEM yng Nghymru drwy bedair prif thema, sef addysg, recriwtio, cadw a dyrchafu. Mae pob un wedi cael ei derbyn gan Lywodraeth Cymru.


Er bod mwyafrif yr argymhellion yn berthnasol i ysgolion, prifysgolion a busnesau STEM yng Nghymru, gyda chyngor, anogaeth a gwaith hwyluso gan Lywodraeth Cymru lle y bo angen, mae dwy weithred sy'n benodol i Lywodraeth Cymru:

  1. Dylai Llywodraeth Cymru sicrhau gwell cydbwysedd rhwng y ddau ryw, mewn pynciau STEM, thema mewn polisïau a rhaglenni addysgol ar gyfer hyfforddiant athrawon; diwygio’r cwricwlwm, cyngor ar yrfaoedd, prentisiaethau a chyllid addysg bellach ac addysg uwch.
  2. Dylai Llywodraeth Cymru adolygu ei chymorth ar gyfer gofal plant ac ystyried beth arall y gall ei wneud i gynorthwyo ystod ehangach o rieni gyda chostau gofal plant – gyda’r nod tymor hir o ddatblygu cynnig cyffredinol o ansawdd uchel ar gyfer gofal ac addysg plentyndod cynnar. 

Rhagwelir y gall cynyddu nifer y menywod yn y maes gwyddoniaeth o amgylch y DU fod gwerth £2biliwn i'r economi cenedlaethol.


Mae'r Ysgrifennydd Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James, yn awyddus i dynnu sylw at y ffaith bod gwaith eisoes ar y gweill i gyflawni'r argymhellion, a dros y blynyddoedd diwethaf mae Llywodraeth Cymru wedi gwella ei buddsoddiad yn y maes pwysig hwn. Dywedodd:

"Mae gwyddoniaeth yn sail i ddatblygiadau arloesi a thechnoleg ac mae'n hanfodol ar gyfer twf economaidd a chreu swyddi o safon uchel iawn. Dyna pam rydym eisoes wedi buddsoddi dros £100 miliwn yn y blynyddoedd diweddar i wella capasiti ymchwil Cymru. Yn ogystal, dyma pam rydym yn cefnogi'r holl argymhellion yn yr adroddiad hwn er mwyn annog mwy o fenywod a merched i gymryd cyfleoedd sgiliau STEM.

"Mae ein cynllun 'Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) mewn addysg a hyfforddiant: cynllun cyflawni i Gymru' (2016) eisoes yn amlinellu ein hymrwymiad i ddenu mwy o ferched i astudio pynciau STEM ac mae ein Cyfarwyddwr Addysg wedi gwneud blaenoriaethu cynnydd merched mewn mathemateg, ffiseg a chyfrifiadureg, a chydbwysedd rhwng y ddau ryw o ran addysg STEM, yn amod o'r cyllid grant." 

Ychwanegodd y Gweinidog: 

"Er bod y rhain i gyd yn ddatblygiadau cadarnhaol, rydym yn cydnabod y gellir gwneud mwy i ddeall y problemau sy'n effeithio ar gynnydd merched mewn pynciau STEM a sut y gall arferion ysgolion gael effaith gadarnhaol. Mae ein rhaglen o ddiwygio addysg yn ceisio mynd i'r afael â hyn."

Mae cynlluniau hefyd yn cael eu trafod gan Lywodraeth Cymru i ddarparu 30 awr o addysg gynnar a gofal plant am ddim i rieni plant tair a phedair oed sy'n gweithio ledled Cymru am 48 wythnos y flwyddyn. Dyma'r cynnig gofal plant mwyaf hael yn y DU, ac mae'n rhoi mwy o ddewis i rieni - menywod, yn benodol - a mwy o gyfle iddynt gael teulu a gyrfa. 

Gallwch weld yr adroddiad Menywod Dawnus ar gyfer Cymru Lwyddiannus yma.