Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James, yn falch o gadarnhau bod yr Athro Syr Mansel Aylward wedi'i benodi fel Cadeirydd newydd Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru Cyf.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Medi 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:
Wedi ei lansio yn 2014, mae'r Hwb Gwyddorau Bywyd wedi dod yn ganolbwynt y sector gwyddorau bywyd yng Nghymru. Gan ddod ag academyddion, gwasanaethau busnes a chlinigol a phroffesiynol at ei gilydd, mae'r hwb yn cynnwys pob gweithgarwch o fewn y sector, o ariannu i gymorth busnes i ddatblygu rhyngwladol. 


Fel rhan o'i benodiad newydd, bydd yr Athro Aylward yn arwain ar ddatblygu gweledigaeth a chenhadaeth newydd ar gyfer yr Hwb, gan gynnwys darparu cyfleoedd i ehangu cwmpas yr Hwb Gwyddorau Bywyd a sicrhau bod cysylltiad rhwng y GIG a Diwydiant.  

Wrth groesawu'r Cadeirydd newydd, dywedodd Julie James: 

"Mae'r sector gwyddorau bywyd yng Nghymru wedi mynd o nerth i nerth yn ddiweddar, gan gyflawni llawer mwy na'r disgwyl ar y llwyfan rhyngwladol ac mae bellach werth oddeutu £2 biliwn i economi Cymru.


"Yr hyn sy'n allweddol i'r llwyddiant hwnnw ac i sbarduno arloesedd ar draws y sector fu Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru Cyf ac rwy'n falch bod yr Athro Syr Mansel Aylward wedi derbyn fy ngwahoddiad i fod yn Gadeirydd ei Fwrdd.


"Mae ganddo brofiad helaeth o weithio yn y sector Gwyddorau Bywyd ar draws y byd academaidd, iechyd a busnes, a bydd yn chwarae rhan allweddol drwy adeiladu ar lwyddiant yr Hwb hyd yma, ac rwy'n edrych ymlaen at weld sut y bydd yr Hwb yn datblygu o dan ei arweiniad."   

Wedi treulio ei yrfa yn gweithio ar draws y sector, daw yr Athro Aylward â gwybodaeth a phrofiad i'r swydd.

Meddai: 

"Mae'n anrhydedd imi ac rwyf yn falch iawn o gael fy mhenodi yn Gadeirydd yr Hwb Gwyddorau Bywyd. Daw y penodiad hwn ar amser tyngedfennol pan fydd Bwrdd yr Hwb Gwyddorau Bywyd yn datblygu gweledigaeth a chenhadaeth newydd sy'n gorfod cynnwys datblygu cyfleoedd i ehangu cwmpas yr Hwb a chreu manteision o gael y GIG yng Nghymru i gysylltu â'r diwydiant a'r byd academaidd.

"Hefyd, mae'n rhaid i'r Hwb ffynnu fel elfen allweddol o weledigaeth Llywodraeth Cymru i gyflymu gweithgarwch datblygu economaidd o fewn y sector gwyddorau bywyd, trwy wneud mwy i annog ystod eang o sefydliadau ar draws y diwydiant, academia, GIG Cymru a buddsoddwyr i gydweithio i sefydlu Cymru fel un o'r amgylcheddau gorau ar y llwyfan rhyngwladol o ran arloesedd, menter ac arfer gorau yn y sector hwn. 

"Heb anghofio fy mod hefyd yn ei ystyried yn bwysig i sicrhau bod amcanion a nodau yr Hwb Gwyddorau Bywyd yn cyd-fynd â nifer o amcanion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Byddaf yn ymrwymo ac yn ymdrechu fel Cadeirydd i gyflawni'r amcanion hyn ac yn awyddus iawn i geisio arwain a llywodraethu'r Bwrdd a'i hybu i sicrhau llwyddiant yr Hwb Gwyddorau Bywyd gyda'i hamcanion newydd."

Bydd yr Athro Aylward yn dechrau ar ei swydd newydd fel Cadeirydd ym mis Hydref 2017.