Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r camau nesaf sy'n rhan o gyfres o fesurau i gyflwyno band eang cyflym a dibynadwy i weddill yr eiddo yng Nghymru wedi'u hamlinellu gan Julie James, Arweinydd y Tŷ.

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Hydref 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae rhaglen Cyflymu Cymru Llywodraeth Cymru eisoes wedi gweddnewid sefyllfa ddigidol Cymru gyda naw adeilad ym mhob deg yn manteisio bellach ar fand eang cyflym iawn o gymharu ag ychydig dros hanner pan ddechreuodd y rhaglen.  Mae wedi cyflwyno band eang ffeibr cyflym i bron 733,000 o adeiladau ym mhob rhan o Gymru.

Fel rhan o gyfres o fesurau ar gyfer yr adeiladau sy'n weddill, mae cytundeb grant wedi'i lofnodi gyda BT. Bydd yn cael ei ddarparu gan Openreach a fydd ar y cychwyn yn cyflwyno band eang cyflym i bron 16,000 o adeiladau erbyn mis Mawrth 2021. Bydd ychydig dros £13 miliwn o gyllid Llywodraeth Cymru a'r Undeb Ewropeaidd yn cael ei ddefnyddio ar gyfer hyn.

Mae'r adeiladau hyn yn y Gogledd, y De-orllewin a'r Cymoedd.  Mae'r broses o werthuso'r tendrau ar gyfer ardal y Dwyrain yn mynd rhagddi a bydd cyhoeddiad pellach yn cael ei wneud unwaith y bydd y gwaith hwnnw wedi dod i ben.  

Bydd y cynllun a fydd yn dilyn Cyflymu Cymru yn rhan o gyfres o ymyriadau.  Ymhlith yr elfennau eraill y bydd cymorth unigol drwy ein cynlluniau Allwedd Band Eang Cymru a Thalebau Gwibgyswllt, a chymorth ar gyfer cymunedau drwy gynlluniau talebau ac ymyriadau a arweinir gan y gymuned.

Dywedodd Julie James:

"Mae'r farchnad band eang yng Nghymru wedi newid yn gyflym dros y pum mlynedd ddiwethaf.  Mae Cyflymu Cymru wedi gweddnewid sefyllfa ddigidol Cymru a bellach, mae gan y rhan fwyaf o adeiladau ledled y wlad fynediad at wasanaeth band eang cyflym iawn.  

“Ond mae mwy eto i'w wneud i gyrraedd yr adeiladau sy'n weddill. Rhaid inni ddefnyddio amrywiaeth o ymyriadau yn y dyfodol os ydym am gyflawni'r dasg enfawr o ddarparu band eang dibynadwy a chyflym i'r adeiladau hynny sydd hebddo ar hyn o bryd. Ni fydd un ateb yn bodloni anghenion pawb.

"Bydd hynny'n cynnwys defnyddio arian cyhoeddus i gyflwyno band eang fel y cyhoeddwyd heddiw, ein cynlluniau Allwedd Band Eang Cymru a Thalebau Gwibgyswllt a chymorth ar gyfer prosiectau cymunedol drwy ein cynlluniau talebau.  I lawer, drwy gynllun cymunedol fydd y ffordd orau o gael cysylltiadau band eang cyflym. Byddwn yn gweithio gyda chymunedau ac awdurdodau lleol i roi cyngor a chyllid i gyflwyno band eang cyflym lle y mae ei angen."

Dywedodd Kim Mears, rheolwr gyfarwyddwr Openreach sy’n gyfrifol am ddatblygu’r seilwaith strategol:

“Rydyn ni wrth ein bodd o weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru unwaith eto wrth inni barhau i gyflwyno band eang ffeibr ledled Cymru.

“Ar ôl cyflwyno Cyflymu Cymru yn llwyddiannus hyd yma, mae cael lotiau cyntaf y cam nesaf yn cadarnhau bod Openreach ar flaen y gad o ran llunio seilwaith sy’n addas ar gyfer y dyfodol.

“Er bod y mwyafrif llethol ledled y wlad – yn ein trefi ac yng nghefn gwlad – eisoes yn gallu manteisio ar fand eang cyflym iawn diolch i waith peirianyddion Openreach yng Nghymru, rydym yn cydnabod bod mwy i’w wneud.

“Hwn yw’r cam nesaf yn y broses o sicrhau bod band eang dibynadwy ar gael i bawb ledled Cymru ar rwydwaith agored sy’n cynnig dewis o ddarparwyr.”