Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r adroddiad hwn yn edrych ar ffactorau sy'n gysylltiedig â phobl yn dweud eu bod yn fodlon iawn â'u swyddi.

Roedd pobl yn fwy tebygol o fod yn fodlon iawn â'u swyddi os oeddent:

  • yn byw ym Mhowys, Sir Benfro, Gwynedd neu Gastell-nedd Port Talbot o gymharu â Chasnewydd a Chonwy
  • yn 60 oed ac yn hŷn neu rhwng 30 a 39 oed
  • yn gyfrifol yn swyddogol dros oruchwylio gwaith gweithwyr eraill
  • yn weddol fodlon neu'n fodlon iawn â'u bywydau
  • yn fodlon â'u cymudo
  • yn fodlon â'r amser hamdden sydd ganddynt
  • yn fodlon â'u sefyllfa ariannol.

Ni welwyd cysylltiad rhwng y canlynol a boddhad â swydd:

  • rhywedd
  • statws priodasol
  • lefel cymwysterau
  • siarad Cymraeg
  • crefydd
  • deiliadaeth (ee rhentu neu berchen tŷ)
  • byw mewn ardal drefol neu wledig
  • bod â phlant ar yr aelwyd
  • bod â mynediad at y rhyngrwyd ar yr aelwyd
  • a gallu i ymdopi â biliau
  • ymrwymiadau credyd.

Adroddiadau

Pwy sydd fwyaf tebygol o fod yn fodlon ar eu swydd?, Ebrill 2013 i Mawrth 2014 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 412 KB

PDF
412 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.