Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AC, Y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Mawrth 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw rwy'n cyhoeddi cymalau drafft posib ar gyfer Bil Cytundeb Ymadael arfaethedig Llywodraeth y DU pe bai Llywodraeth y DU i ailagor y Datganiad Gwleidyddol er mwyn ceisio ffordd ymlaen ar ymadawiad y DU â’r UE. Gellir eu gweld yn Atodiad 1.

Mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi dweud yn glir - yn fwyaf diweddar ar 5 Mawrth - ei fod yn credu bod ymadael heb gytundeb yn ganlyniad annerbyniol i'r negodiadau Brexit presennol, a'i fod hefyd yn gwrthod y cytundeb a osodwyd gerbron Senedd y DU gan y Prif Weinidog.

Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud yn gyson ei bod yn credu bod modd sicrhau cytundeb a fyddai’n gyson â'r safbwynt a osodwyd ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn Diogelu Dyfodol Cymru drwy newidiadau i'r Datganiad Gwleidyddol, heb newid testun y Cytundeb Ymadael ei hun o gwbl. Rydym hefyd yn credu y gallai hynny sicrhau mwyafrif mewn pleidlais rydd yn Nhŷ'r Cyffredin.

Rydym hefyd wedi dweud yn gwbl glir, os nad oes modd i Senedd y DU gytuno ar y ffordd hon ymlaen, y dylid trosglwyddo’r cwestiwn yn ôl at y bobl, trwy refferendwm. Dyna’n safbwynt ni o hyd. 

Y prif anhawster o ran symud ymlaen drwy ddiwygio’r Datganiad Gwleidyddol yw'r ffaith y gallai Llywodraeth y DU wyro oddi wrth faterion pwysig a gytunwyd mewn egwyddor yn y Datganiad Gwleidyddol, neu droi cefn arnynt yn llwyr, ar ôl i'r Senedd gymeradwyo cytundeb Theresa May a chadarnhau’r Cytundeb Ymadael. Mae hyn yn wahanol i'r Cytundeb Ymadael ei hun y gellir ei orfodi dan gyfraith ryngwladol.

Pwrpas ein cymalau drafft yw dangos sut y gallai newidiadau i'r Datganiad Gwleidyddol i adlewyrchu ein hamcanion polisi - yn bennaf, parhau i gymryd rhan mewn undeb tollau gyda'r UE a'r farchnad sengl - gael eu hangori yn y ddeddfwriaeth sylfaenol a fydd yn angenrheidiol i ddeddfu’r Cytundeb Ymadael yng nghyfraith y DU. Drwy osod mewn deddfwriaeth sylfaenol yr amcanion negodi cyffredinol, rhwymedigaeth ar y Llywodraeth i gyflwyno cyfres fanylach o amcanion a gofyniad am adroddiadau rheolaidd i'r Senedd am gynnydd yn erbyn yr amcanion hynny, byddai'n anodd i'r Llywodraeth bresennol neu unrhyw Lywodraeth yn y dyfodol symud oddi wrth fwriad y Senedd wrth gymeradwyo cytundeb o'r fath.

Mae'r cymalau drafft hefyd yn darparu y caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru (ac o bosib y deddfwriaethau datganoledig eraill) gyfrannu at y gwaith o lunio’r negodiadau ac y caiff y Cynulliad Cenedlaethol a Senedd y DU graffu ar y cytundeb(au) terfynol gyda'r UE. Yn olaf, maent yn darparu ar gyfer proses benderfynu Seneddol os daw yn glir nad oes modd i'r negodiadau gyda'r UE fynd ymhellach. Gosodir pwynt wyth mis cyn diwedd y cyfnod pontio disgwyliedig, gan ei bod yn debygol y bydd yn ofynnol i unrhyw gytundeb gael ei gadarnhau gan Seneddau ar draws 27 gwlad yr UE.

Gan gydnabod barn glir y Senedd ynghylch ei rôl yn llunio’r berthynas rhwng y DU a’r UE fel y gwelir yn adran 13 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, mae’r cymalau hyn yn defnyddio’r gofynion sydd i’w gweld yn y ddarpariaeth honno.

Yn y cymalau drafft hyn, nid oes darpariaeth ar gyfer yr Alban na Gogledd Iwerddon, gan ein bod yn teimlo ei bod yn amhriodol siarad ar ran eu gweinyddiaethau datganoledig. Fe fyddem wrth gwrs yn cefnogi darpariaethau tebyg ar gyfer Gweinidogion a Senedd yr Alban ac unrhyw Weithrediaeth neu Gynulliad sy'n cael ei ail-sefydlu yng Ngogledd Iwerddon mewn cymalau o’r fath.

Mae'r cymalau sydd wedi cael eu drafftio gennym yn adlewyrchu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru: ond y bwriad yw dangos yn fwy cyffredinol sut y gellid mynd ati i ymwreiddio Datganiad Gwleidyddol wedi'i ail negodi. Rydym yn gobeithio y byddant o gymorth wrth i Dŷ'r Cyffredin ystyried cynnydd y negodiadau a'r camau nesaf ar 12 (ac o bosib 13 ac 14) Mawrth.

Rwyf wedi ysgrifennu at Ganghellor Dugiaeth Caerhirfryn fel Cadeirydd Cyd-bwyllgor y Gweinidogion (Negodiadau Ewropeaidd) a’r Ysgrifennydd Gwladol dros Ymadael â’r UE, gan roi copi i aelodau eraill o'r Pwyllgor hwnnw ac arweinwyr y pleidiau yn Senedd y DU, gan amgáu copi o'r Datganiad hwn a'r cymalau drafft.