Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r adroddiad hwn yn edrych ar foddhad â llety, perchnogaeth, rhentu a mesurau arbed ynni ar gyfer Ebrill 2014 i Mawrth 2015.

Prif bwyntiau

  • Roedd 68% yn fodlon iawn â'u llety a 26% yn weddol fodlon (94% yn fodlon).
  • Roedd 77% o'r bobl a oedd yn byw mewn tŷ oedd yn eiddo i berchen-feddianwyr yn fodlon iawn â'u llety, o gymharu â 52% o'r bobl a oedd yn byw mewn llety rhent preifat a 48% mewn tai cymdeithasol.
  • Roedd 48% o'r bobl a oedd yn byw mewn llety rhent preifat yn fodlon iawn â'r gwaith cynnal a chadw neu atgyweirio a wnaed gan eu landlord, o gymharu â 38% o'r bobl mewn tai cymdeithasol.
  • Roedd 86% o'r rhai oedd yn defnyddio gwasanaethau gofal cymdeithasol yn dweud bod eu llety yn addas ar gyfer eu hanghenion.
  • Lle'r oedd yn hysbys ac yn berthnasol, dywedodd 94% fod ganddynt inswleiddiad atig/to, 74% fod ganddynt inswleiddiad wal geudod a 31% fod ganddynt inswleiddiad wal solet.
  • Roedd pobl mewn llety rhent preifat yn llai tebygol o fod â mesurau arbed ynni na'r rhai mewn tai oedd yn eiddo i berchen-feddianwyr neu dai cymdeithasol.
  • Roedd dadansoddiad pellach yn dangos, ar ôl ystyried ffactorau eraill, bod aelwydydd mewn amddifadedd materol yn llai bodlon â'u llety.

Adroddiadau

Llety a mesurau arbed ynni (Arolwg Cenedlaethol Cymru), Ebrill 2014 i Mawrth 2015 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 900 KB

PDF
900 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.