Neidio i'r prif gynnwy

Mae Gweinidog yr Economi, Ken Skates wedi cyhoeddi £1.7 miliwn yn ychwanegol i helpu Busnesau Bach a Chanolig ymdopi â heriau ac ansicrwydd Brexit.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Mawrth 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Bydd yr arian ar gael drwy Gronfa Cydnerthedd Busnes Llywodraeth Cymru, a gafodd ei lansio ym mis Tachwedd, gyda gwahoddiad cychwynnol i BBaChau wneud cais am eu cyfran o'r £1 miliwn.  Yn dilyn y galw mawr gan gwmnïau yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru wedi ymateb yn gyflym i roi mwy o gymorth busnes, a bellach wedi neilltuo £1.7 miliwn ychwanegol i'r gronfa. Golyga hyn y bydd mwy o gwmnïau, nifer ohonynt eisoes wedi cynnig syniadau i Lywodraeth Cymru, yn cyflwyno eu ceisiadau. Mae'r arian yn rhan o Gronfa Bontio'r UE gan Lywodraeth Cymru, sy'n werth £50 miliwn. Drwy'r gronfa, gall gwmnïau ledled Cymru wneud cais am rhwng £10,000 a £100,000 o gyllid gan Lywodraeth Cymru. 
Gall hyn dalu am hyd at 50% o gostau prosiect sydd, er enghraifft yn gwella y gallu i gynhyrchu yma yng Nghymru, yn cryfhau cadwyni cyflenwi a lliniaru y risgiau sy'n gysylltiedig â Brexit megis effaith yr oedi ar y ffiniau ar gynnyrch sydd â therfyn amser.  Er mwyn bod yn gymwys ar gyfer y cyllid, mae'n rhaid i ymgeiswyr ddangos y bydd eu prosiect yn helpu i ddiogelu swyddi yn ystod y cyfnod ansicr sy'n arwain at Brexit ac wedi hynny. Bydd Gweinidog yr Economi yn cyhoeddi yn ffurfiol y bydd arian ychwanegol mewn ymweliad ag Asbri Golf yng Nghaerffili, sydd eisoes wedi gwneud cais llwyddiannus am gymorth o'r gronfa.  Mae'r cwmni, sy'n cynhyrchu a chyflenwi offer a dillad golff wedi'i frandio i'r diwydiant chwaraeon a hamdden wedi darparu dyluniadau i nifer o frandiau mawr yn fyd-eang megis Puma, Under Armour, Merrell a Kappa, ac mae £35 mil wedi'i neilltuo i fuddsoddi mewn tri peiriant newydd. Bydd hyn yn eu galluogi i ddiogelu wyth o swyddi yng Nghymru.  Meddai Gweinidog yr Economi:  
"Dwi wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn fy ngallu i helpu busnesau o Gymru i wrthsefyll Brexit a pharatoi ar gyfer yr heriau.  "Mae mentrau fel Porthol Brexit Busnes Cymru, sy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf a chyngor busnes bellach wedi'i weld gan bron 30,000 o fusnesau, ac mae ein dull diagnostig yn helpu cwmnïau o Gymru i gynllunio a defnyddio y cymorth ymarferol sy'n mynd i'r afael â'u hanghenion busnes penodol hwy.  "Rydyn ni hefyd wedi lansio ein Cronfa Cydnerthedd Busnes ym mis Tachwedd i helpu cwmnïau ledled Cymru i dderbyn cyllid ychwanegol i helpu gyda prosiectau fydd yn diogelu swyddi.  "Mae dangosyddion allweddol, megis ffigurau allforio ac ystadegau y farchnad lafur yn dangos bod ein dull o ymdrin â busnesau yn talu'r ffordd, a heddiw, wedi i nifer o gwmnïau o'r sector wneud ceisiadau, dwi'n falch o gyhoeddi £1.7 miliwn yn ychwanegol ar gyfer ein Cronfa Cydnerthedd Busnes. 
"Bydd yr arian ychwanegol hwn yn galluogi mwy o gwmnïau, nifer ohonynt eisoes wedi cysylltu â Llywodraeth Cymru gyda syniadau, i wneud cais am gymorth o'r gronfa a pharatoi ar gyfer goblygiadau Brexit yn y tymor byr a'r hirdymor.  "Dwi'n edrych ymlaen at weld yr arian ychwanegol hwn yn helpu rhagor o fusnesau o Gymru i ymdopi, fel y gallwn ddiogelu swyddi yng Nghymru a pharatoi ar gyfer yr amseroedd heriol sydd o'n blaenau."