Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, mae'r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething wedi cyhoeddi mai Mr John Pearce yw Cadeirydd newydd Bwrdd y Cynghorau Iechyd Cymuned yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Mawrth 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae gan Gymru saith Cyngor Iechyd Cymuned. Maent yn gyrff annibynnol sy'n cynrychioli buddiannau pobl yn y gwasanaeth iechyd yn eu hardal. 

Mae'r Cynghorau hyn yn gweithredu fel llais i'r cyhoedd drwy hysbysu rheolwyr gwasanaethau iechyd am yr hyn y mae pobl ei eisiau a sut gellir gwella pethau. 

Mae Bwrdd y Cynghorau’n cynrychioli lleisiau cleifion a’r cyhoedd ar lefel genedlaethol. Mae'n gosod y safonau cenedlaethol y mae'n rhaid i'r Cynghorau eu cyrraedd, ac mae’n rhoi cyngor, canllawiau a chymorth. Mae hefyd yn gyfrifol am fonitro a rheoli eu perfformiad.

Dyma gyfnod cyffrous ond heriol i'r Bwrdd ac i fodel presennol y Cynghorau Iechyd Cymuned wrth iddynt newid i fod yn gorff Llais y Dinesydd newydd. Mae swydd y Cadeirydd yn cynnig cyfle i gael arweiniad strategol ar draws Cymru gyfan, a bydd gofyn i'r Cadeirydd arwain Bwrdd y Cynghorau Iechyd Cymuned a'r mudiad ehangach drwy gydol y cyfnod pontio.
Mae gan Mr Pearce gefndir amlwg ym maes gwasanaethau cyhoeddus, yn arbennig llywodraeth leol, fel Cyfarwyddwr Addysg ac yn ddiweddarach, fel Cyfarwyddwr Corfforaethol.
Bu'n aelod o Gyngor Iechyd Cymuned Aneurin Bevan rhwng 2010 a 2018, gan fod yn Gadeirydd am y tair blynedd ddiwethaf. Yn ystod y cyfnod hwn, bu'n ymwneud â'r sector iechyd ar nifer o bwyllgorau, gweithgorau a phrosiectau ymchwil gwahanol.

Dywedodd Mr Pearce, 

"Mae Cynghorau Iechyd Cymuned wedi cyflawni rôl hollbwysig i gleifion a chymunedau er mwyn sicrhau bod eu lleisiau unigol a chyfunol yn cael eu clywed ac yn gwneud gwahaniaeth.

"Mae'n hanfodol bod Cymru yn parhau i gael sefydliad annibynnol sy'n cyflawni rôl fel hon, fel bod llais cleifion a chymunedau yn ganolog i sicrhau bod gwasanaethau iechyd yn bodloni disgwyliadau presennol y Genedl, a'i disgwyliadau ar gyfer y dyfodol.  Edrychaf ymlaen at gael arwain y Cynghorau Iechyd Cymuned drwy gyfnod pontio heriol o sefydlu'r corff Llais y Dinesydd newydd a gyda hynny, mwy o integreiddio rhwng iechyd a gofal cymdeithasol."  

Dywedodd Vaughan Gething: 

"Llongyfarchiadau mawr i John ar ei swydd newydd. Rwy'n siŵr y bydd yn gwneud cyfraniad enfawr i'r Cynghorau Iechyd Cymuned, ac rwy'n dymuno pob llwyddiant iddo yn ei rôl."