Neidio i'r prif gynnwy

Mae cwmni peirianyddol o Sir Benfro sy'n arbenigo mewn dylunio ac ymgynghori yn ehangu, gan greu 22 o swyddi newydd, yn dilyn cymorth gan Lywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Mawrth 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Gwasanaethau Technegol InSite, ym Mharc Gwyddoniaeth a Thechnoleg Sir Benfro, yn cynnig gwasanaethau peirianyddol a dylunio i amrywiol gleientiaid yn y diwydiannau olew, nwy, metelau, cemegau a diwydiannau adnewyddadwy.

Mae'r cwmni, sydd â'u canolfan yn Ardal Fenter Dyfrffordd y Ddau Gleddau, wedi datblygu'n gyflym, gan bron i ddyblu eu trosiant yn y ddwy flynedd ddiwethaf, ac wedi derbyn cymorth gwerth £160 mil gan Lywodraeth Cymru.

Mae hyn wedi galluogi'r cwmni i symud o'u canolfan bresennol yng nghanolfan ddeori Sir Benfro, i safle a swyddfeydd newydd sy'n berchen i'r cwmni, y maent yn bwriadu eu hehangu. Y bwriad yw symud i'r safle newydd ddiwedd Mawrth. 

Mae disgwyl i'r ehangu greu 22 o swyddi newydd crefftus sy'n talu'n dda, dros bum mlynedd, gyda chyflog o £42,000 ar gyfartaledd. 
Wedi'i sefydlu ar ôl cau Purfa Olew Murco yn Sir Benfro, mae InSite wedi ehangu o fod â chwech o gyfarwyddwyr sefydlu yn 2014 i'w weithlu presennol o oddeutu 80 o weithwyr. 

Meddai Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi: 

Dwi'n falch iawn bod cyllid Llywodraeth Cymru yn galluogi'r cwmni peirianyddol llwyddiannus hwn i greu 22 o swyddi newydd crefftus sy'n talu'n dda yn Sir Benfro.

Mae gan InSit Gontract Economaidd gyda Llywodraeth Cymru, sy'n golygu eu bod wedi ymrwymo i egwyddorion twf, gwaith teg, iechyd, sgiliau a dysgu a datgarboneiddio, ac wrth gwrs mae'r rhain yn egwyddorion sy'n bwysicach nag erioed wrth inni baratoi am fywyd y tu allan i'r UE.

Gyda'u prentisiaethau i raddedigion yn y gweithle, a'u hymrwymiad i ddatblygu y gweithlu lleol a'u gwaith agos gyda Phrifysgol Abertawe, mae InSite yn amlygu sawl math o ymddygiad busnes yr ydym am ei annog. Dw i’n dymuno pob llwyddiant iddynt gyda'u cynlluniau ehangu.

Meddai Jean Martin, Rheolwr-gyfarwyddwr Gwasanaethau Technegol Insite:

Ers dechrau ym mis Ionawr 2015, mae'r cwmni wedi datblygu o fod yn griw o beirianwyr i dîm o 50 gyda dros 20 o gontractwyr, a rydym bellach yn bwriadu symud i adeiladau mwy, er mwyn datblygu ymhellach. 

Mae InSite Technical Services yn cynnig gwasanaethau dylunio peirianyddol a phrofiad o weithredu i'r sector ynni yng Nghymru, y DU a thramor. Rydym wedi ychwanegu at ein tîm o'r ddawn beirianyddol sydd eisoes ar gael yn Sir Benfro a Gorllewin Cymru, a bellach yn recriwtio y tu hwnt i'r ardal. 

Rydyn ni'n falch bod y prif safleoedd ar yr hafan ymysg ein cwsmeriaid, gan gynnwys y burfa leol, terfynfeydd storio olew a'r ddau safle LNG. Mae ein gweithgareddau ymgynghori wedi ein cymryd cyn belled â Canada, Saudi a'r Emiraethau Arabaidd Unedig, ac rydym yn ddiweddar wedi cyflogi peiriannydd gyda chontract hirdymor yn Y Swistir.

Mae'r cymorth yr ydym yn ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru wrth reoli'r twf hwnnw, gan gynnwys eu cyngor arbenigol am eu Rhaglen Twf Cyflym, wedi bod yn hollbwysig i'n llwyddiant. Rydym hefyd yn ddiolchgar i Gyngor Sir Benfro gan bod Canolfan Arloesedd y Bont wedi bod yn ganolfan berffaith i lansio ein menter.